Skip to content

Yr wythnos hon, yn dechrau ar 20 Mawrth, yw Wythnos Ymwybyddiaeth Tlodi gan ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn ei chael yn anos nag erioed i dalu eu biliau.

Gall dyled ddigwydd i unrhyw un, ac rydym yn gwybod bod cael dyled yn gallu achosi straen fawr. Mae cannoedd o resymau pam bod pobl yn oedi cyn cael cyngor ar ddyledion – mae rhai ofn y byddant yn cael eu beirniadu, rhai eraill yn anwybyddu pethau a gobeithio y byddant yn gwella, ac nid yw llawer yn gwybod bod ClwydAlyn yma i gynnig cyngor a help i’w breswylwyr.

Yma mae Janice Peterson, Swyddog Hawliau Lles a Chyngor Ariannol, yn rhannu ei syniadau am sut y gall helpu Preswylwyr ClwydAlyn trwy roi cyngor diduedd iddynt ar sut i wynebu dyled.

Dywedodd: “Mae’n amhosibl anwybyddu’r ffaith bod yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i lawer ohonom. Ni allai unrhyw un fod wedi rhagweld y sefyllfa coronafeirws a’r rhyfel yn Wcráin a pha mor galed y byddai’r effaith ariannol yn taro.

“Mae’r ffactorau yma wedi arwain at argyfwng costau byw sydd wedi effeithio arnom i gyd, ond yn sicr bydd wedi taro rhai yn waeth nag eraill oherwydd colli swyddi neu leihau oriau, ymhlith pethau eraill. Bydd hyn yn aml yn arwain at bwysau ariannol cynyddol a dyledion gwaeth.

“Oherwydd bod biliau’n cynyddu ac eitemau bob dydd yn codi, mae dyled bersonol oedolyn ar gyfartaledd (heb gyfrif morgeisi) yn y Deyrnas Unedig wedi codi o £25,879 i £34,566 (£8,687) yn 2022, gyda phedwar o bob pum oedolyn yn datgelu eu bod wedi dechrau 2023 mewn dyled, sydd wedi codi o dri o bob pump yn 2021.

“Yn anffodus, mae hwn yn amlach na pheidio yn bwnc nad yw’n cael ei drafod, gyda llawer o bobl yn teimlo embaras neu hyd yn oed gywilydd wrth ei grybwyll a thueddu i’w anwybyddu yn lle hynny, sydd wrth gwrs, yn hollol groes i’r hyn y dylai rhywun ei wneud pan fydd yn gweld ei fod mewn dyled.”

Mae’n bwysig bod yn agored gyda’ch teulu neu rwydwaith cefnogi am eich trafferthion â dyled, gan ei bod yn anodd dod trwyddi ar eich pen eich hun, ac mae help ar gael. Cysylltir problemau ariannol yn aml â thrafferthion iechyd meddwl gyda llawer o bobl yn dweud ei fod yn arwain at iselder, straen neu orbryder.

Y cam cyntaf i ddod yn ôl ar y llwybr iawn yw siarad am y peth. Nid oes dim i fod â chywilydd amdano, gall unrhyw un fynd i ddyled am amrywiaeth o resymau, y cyfan sydd o bwys os ydych yn cael trafferth yw eich bod yn chwilio am help.

Siaradwch â rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo

Efallai y gall eich helpu i lunio cyllideb neu ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu incwm a lleihau gwariant, yn ogystal â’ch helpu i ddeall ac ymdrin ag unrhyw lythyrau. Gall fod yn gefn i chi hefyd, fel na fydd raid i chi fynd trwy’r peth ar eich pen eich hun.

Dywedwch wrth eich partner

Os ydych mewn perthynas, a’i bod yn ddiogel, mae’n well sicrhau bod eich partner hefyd yn gwybod am eich dyled, gan ei fod/ei bod yn debygol o wybod bod rhywbeth o’i le beth bynnag. Gall ei gadw rhagddynt greu mwy o straen yn eich perthynas. Sicrhewch y fo/hi eich bod yn ymdrin â’r broblem, yn gweld cynnydd, a gofynnwch iddo/iddi eich cefnogi chi yn y broses wrth symud ymlaen.

Edrychwch ar ôl eich hun

Gall dyled greu llawer iawn o straen, felly mae’n bwysig gofalu amdanoch eich hun mewn ffyrdd eraill. Gofalwch eich bod yn rhoi amser i fynd am dro a gwneud pethau yr ydych yn eu mwynhau gyda phobl sydd yno i’ch cefnogi. Bwytwch yn dda, gwnewch ymarfer corff, a gorffwys – y ffordd bwysicaf i ofalu am eich iechyd meddwl.

Ychwanegodd Janice:

“Rydym yma i’ch helpu chi ac mae’n bwysig i bobl wybod nad oes raid i chi ddioddef yn dawel. Rydym yn gwybod pa mor gyflym y gall pethau droelli allan o reolaeth a chyntaf yn y byd y byddwch yn cysylltu â ni, cyflymaf yn y byd y byddwn yn gallu eich helpu. Hyd yn oed os nad ydych am siarad ag unrhyw un, mae llawer o offer a dewisiadau ar gael i ddechrau datrys problem dyled ac rydym wedi creu siop un stop fydd yn eich helpu i reoli eich biliau’n fwy effeithiol.”

“Rydym yma i chi ac os ydych yn wynebu anawsterau wrth dalu am bethau fel eich rhent, cofiwch gysylltu â naill ai eich Swyddog Tai, neu ffoniwch ni ar 0800 1835757 neu anfonwch e-bost at help@clwydalyn.co.uk  ac fe fyddwn yn eich helpu i gychwyn ar eich taith at fyw’n ddiddyled.”

Mae llawer o ffyrdd y gallwch eich helpu eich hun hefyd. O offer llunio cyllideb i gyngor arbenigol o ffynonellau eraill, fel Money saving expert.

Adnoddau ClwydAlyn

Ffyrdd eraill o gael help

  • Step Changesydd â dros 25 mlynedd o brofiad yn rhoi datrysiadau dyled ymarferol
  • Cyngor ar Bopeth(Canolfan Cyngor ar Bopeth gynt) sy’n sefydliad annibynnol yn arbenigo mewn cyngor cyfrinachol ar bynciau fel cyngor ar ddyled neu reoli eich biliau. Mae ganddynt eu hofferyn cyllidebu ar-lein eu hunain
  • National Energy Actionyw’r elusen genedlaethol sy’n gweithio i ddod â thlodi tanwydd i ben yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon. Gallant roi cyngor a gwybodaeth gyfredol am y cynnydd mewn prisiau ynni
  • Money saving expertsydd â llawer o gyngor ac offer, yn ogystal â newyddion a gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau a all eich helpu wrth wneud penderfyniadau
  • Llinell cyngor dyledion sy’n llinell gymorth wedi ei chymeradwyo gan y llywodraeth i daclo eich dyled.

Gallwch hefyd fynd i’n Tudalen cynnydd mewn costau byw am ragor o awgrymiadau a chyngor.