Skip to content

Mae ClwydAlyn, Cymdeithas Dai yng Ngogledd Cymru, wedi bod yn helpu Tan y Fron, cynllun byw’n annibynnol yn Llandudno, i baratoi ar gyfer ei ddathliadau 10 mlwyddiant, gyda chymorth prosiect gwirfoddoli newydd y gymdeithas, sef DIY SAS.

Yr SAS yw Pwyllgor Chwaraeon a Chymdeithasol gwirfoddol ClwydAlyn, sy’n cael ei redeg gan y staff. Yn y gorffennol, mae wedi trefnu digwyddiadau fel tynnu talebau adeg y Pasg a chystadlaethau ffotograffiaeth, pêl-droed ffantasi a dyddiau hwyl i breswylwyr a staff yn yr haf. Er mwyn annog mwy o aelodau staff i gymryd rhan ym mholisi gwirfoddoli ClwydAlyn, aeth y grŵp ati i greu DIY SAS a lansiwyd ym mis Ebrill, er mwyn rhoi rhywbeth nôl i gynlluniau a chymunedau’r gymdeithas dai.

Cynhaliwyd y prosiect DIY SAS cyntaf ddydd Sadwrn, 18 Mai, pan dreuliodd grŵp o aelodau staff y diwrnod yn Nhan y Fron. Bu’r criw yn tacluso’r ardd gymunedol, yn tocio’r llwyni, yn chwynu, ac yn tocio planhigion oedd wedi gordyfu, yn barod ar gyfer y parti 10 mlwyddiant a gynhelir yno ddydd Gwener, 14 Mehefin.

Cafwyd cymorth gan gwmnïau lleol eraill hefyd, gan gynnwys Law Construction a wnaeth gyfrannu llechi,Samco a wnaeth gyfrannu menig, a GE Tools a wnaeth gomisiynu 50 o festiau llachar gyda’r logo DIY SAS.

Diolch yn fawr iawn i’r tîm a drefnodd ac a wirfoddolodd i dacluso ein gardd yn Nhan y Fron ddydd Sadwrn, 18 Mai. Mae’n golygu cymaint i staff a phreswylwyr Tan y Fron. Yr ardd yw calon Tan y Fron ac mae’n dod â phleser i bawb sy’n byw ac yn gweithio yma. Rwy’n gwybod fod aelodau o deuluoedd ein staff ymhlith y gwirfoddolwyr a hoffwn ddiolch iddynt yn arbennig am roi eu hamser a’u hegni i gymryd rhan y prosiect gwirfoddol hwn. Byddwn yn cynnal ein dathliadau 10 oed yn yr ardd ar 14 Mehefin. Mae gwahoddiad cynnes i’r holl wirfoddolwyr ddod i’r digwyddiad.

Debjani Basu
Rheolwr cynllun Tan y Fron
Fe wnes i adael Tan y Fron ddydd Sadwrn gyda gwên fawr ar fy ngwyneb, gan wybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl. Mae hyn yn help mawr i iechyd a lles ein cwsmeriaid, a byddan nhw’n gallu mwynhau ffrwyth ein llafur drwy gydol yr haf.
Diolch o galon i bawb am gymryd rhan a rhoi eich amser personol i gwblhau’r prosiect yn yr ardd.
Nigel Blackwell
Rheolwr plymio a ClwydAly
Hyd yma, mae’r SAS wedi annog 44 aelod staff i wirfoddoli, mae staff hefyd wedi gwirfoddoli i roi cyngor (ar arddio). Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan i wella’r ardaloedd fel y gall ein preswylwyr eu mwynhau. Gan ein bod wedi cwblhau un prosiect, ein gobaith yw y bydd mwy o staff yn cymryd rhan ac y bydd hyn yn parhau i dyfu.
Amy
Aelod SAS
Mae’r aelodau staff sy’n gwirfoddoli yn cymryd rhan mewn prosiect sy’n addas ac yn gyfleus iddyn nhw, ac mae hyn yn wych. Ar hyn o bryd mae gennym naw cais am brosiectau (gan gynnwys Tan y Fron) ac rydym yn edrych ymlaen i weld canlyniadau gweithio mewn partneriaeth â’n cydlynydd arian grant a gwerth cymdeithasol Lois. ‘Diolch yn fawr iawn’ i’n holl bartneriaid sydd eisoes wedi cyfrannu eitemau y gallwn eu defnyddio!
Lisa
Aelod SAS

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/