Mae Cymdeithas Dai ClwydAlyn wedi rhyddhau ei hadroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ACLl) diweddaraf. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o waith y sefydliad ar draws y tair thema, gan ddangos ymrwymiad cadarn i arferion cynaliadwy, dulliau busnes moesegol a llesiant cymunedol.
Mae’r adroddiad yn amlinellu ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu a chreu cartrefi ynni-effeithlon, a chadwyni cyflenwi moesegol. Mae ClwydAlyn wedi ymroi hefyd i adeiladu tai fforddiadwy, gan roi pwyslais ar lesiant y bobl sy’n byw ynddynt a’r cymunedau maent yn rhan ohonynt.
Mae’r gwaith hwn yn dangos ymrwymiad ClwydAlyn i feithrin cymunedau amrywiol a ffyniannus drwy weithredu polisïau tai cynhwysol, sy’n sicrhau mynediad teg a chyfartal i dai, ynghyd ag ymagwedd ragweithiol at greu lleoedd. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r pwyslais ar gynhwysiant digidol er mwyn helpu pobl sydd mewn perygl o gael eu hallgáu yn ddigidol i gael mynediad at wasanaethau digidol fel y gallant fodloni eu hanghenion sylfaenol, fel gwneud cais am Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill, yn ogystal â chael cyfleoedd ym meysydd gwirfoddoli, hyfforddiant a gwaith.”
Dywedodd Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlyn: “Mae ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, effaith gymdeithasol a llywodraethu corfforaethol da wedi’i wreiddio’n ddwfn yn ein gwerthoedd a’n cenhadaeth i drechu tlodi. Rydym yn rhoi ein pobl a’n cymunedau wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud. Mae’r adroddiad ACLl nid yn unig yn dangos ein hymdrechion parhaus i adeiladu tai ynni-effeithlon, fforddiadwy, o ansawdd, ond hefyd ein hymrwymiad i weithredu’n gadarnhaol er budd yr amgylchedd a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Yn wyneb yr angen parhaus i flaenoriaethu cynaliadwyedd a chyfrifoldeb cymdeithasol, disgwylir y bydd adroddiad ACLl diweddaraf ClwydAlyn yn cael ei groesawu gan breswylwyr, tenantiaid, partneriaid, rhanddeiliaid, a Llywodraeth Cymru.
Mae’r adroddiad ar gael yma : Environmental, Social and Governance Report 2022/23 by ClwydAlyn – Issuu