Skip to content

Mae ein tîm Cydymffurfiaeth a Diogelwch Adeiladu yn gweithio’n galed i sicrhau bod eich cartrefi yn bodloni’r safonau uchaf o ran diogelwch. Mae eu cyfrifoldebau yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd cydymffurfiaeth i gadw pob adeilad yn ddiogel.

  • Diogelwch Trydanol
  • Diogelwch Tân
  • Diogelwch Nwy
  • Asbestos yn y Cartref
  • Cydymffurfiaeth o ran Legionella

Dyma ragor o wybodaeth am yr hyn mae arnoch angen ei wybod i gynnal eich cartrefi yn ddiogel yn y cyfnod rhwng ein hymweliadau rheolaidd.

Diogelwch Trydanol

Mae diogelwch trydanol yn ymdrin â meysydd fel:

  • Diogelwch trydanol yn y cartref
  • Gorlwytho socedi

Mae ein tîm yn cynnal archwiliadau diogelwch trydanol yn ein heiddo bob pum mlynedd o leiaf, yn dibynnu ar oedran a chyflwr y gwaith trydan. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig eich bod chi’n gwybod sut i gynnal archwiliadau diogelwch trydanol syml yn y cartref yn y cyfamser.

Cyngor ar Ddiogelwch Trydanol yn y Cartref:


1
Archwiliwch eich bocs ffiwsiau yn rheolaidd am unrhyw broblemau:
Cadwch yr ardal o amgylch y bocs ffiwsiau yn glir, yn lân ac yn daclus.
2
Sicrhewch fod y bocs ffiwsiau:
Yn lân, heb unrhyw lwch. Yn dangos dyddiad yr archwiliad diwethaf a’r nesaf yn glir. Wedi’i labeli’n gywir fel bod diben pob adran yn amlwg. Yn cynnwys cloriau /sgriniau.
3
Os oes Dyfais Torrwr Cylched Cerrynt Gweddilliol (RCD/RCBO/RCCB) wedi’i gosod: Chwiliwch am y Label Prawf. Gwiriwch bod y ddyfais yn gweithio bob chwe mis. Os yw’r RCD yn tripio yn rheolaidd neu nid yw’n diffodd pan fydd yn cael ei brofi, cysylltwch â thîm cynnal ClwydAlyn ar unwaith.
4
Defnyddiwch y prif switsh i sicrhau y gallwch ynysu’r gosodiad os bydd argyfwng.
5
Yn achos torwyr cylchedau, gwiriwch bob un yn unigol i sicrhau eu bod wedi’u hynysu’n gywir.
6
Dylai’r pwyntiau trydanol fod yn gadarn, heb eu difrodi, ac wedi’u sgriwio’n dynn. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw ddifrod neu farciau llosg, ffoniwch y ganolfan alw ar unwaith.

Osgoi Gorlwytho Socedi

Mae gorlwytho socedi yn arfer cyffredin ond peryglus sy’n gallu arwain at danau trydanol. I atal hyn: Dylech osgoi plygio gormod o ddyfeisiau i un soced. Cyfyngwch ar y defnydd o addasyddion aml-blwg. Gwnewch yn siŵr nad yw cyfanswm watedd y dyfeisiau sydd wedi’u cysylltu yn fwy na chapasiti’r soced. I weld Cyfrifiannell Gorlwytho Socedi defnyddiol, ewch i:
Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru

Diogelwch Tân

 Dyma arweiniad hanfodol i ddiogelwch tân:

  • Beth i’w wneud os bydd tân.
  • Sut i gynnal systemau chwistrellu dŵr yn y cartref.
  • Trefnu apwyntiadau ar gyfer archwiliadau drysau tân blynyddol.

Mae bod yn gyfrifol o amgylch tân yn rhan allweddol o gadw cartrefi yn ddiogel. Gwyliwch y fideo isod i gael rhagor o wybodaeth am sut i brofi systemau canfod tân a chynllunio llwybr dianc os bydd tân.

Cynnal Systemau Chwistrellu Dŵr:

Mae systemau chwistrellu dŵr wedi bod yn orfodol mewn adeiladau newydd a rhai sy’n cael eu trosi yng Nghymru ers 2016. Mae’n ofynnol cynnal archwiliadau gwasanaeth blynyddol i sicrhau eu bod yn gweithio’n iawn. Un broblem gyffredin rydym yn dod ar ei thraws yw fod pobl wedi paentio pennau’r chwistrelli. Ceisiwch osgoi baentio pennau’r chwistrelli, gan y gall hyn eu hatal rhag gweithio pan fydd eu hangen.

Diogelwch Drysau Tân:

Rydym wedi bod yn gosod drysau tân newydd yn ein holl adeiladau amlfeddiannaeth i gydymffurfio â Deddf Diogelwch Tân 2021. Mae’n rhaid archwilio’r drysau hyn bob blwyddyn i sicrhau nad ydynt wedi’u difrodi a’u bod yn dal i amddiffyn rhag tân. Bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu archwiliad sydyn, 5 munud o hyd. I gael rhagor o wybodaeth am eich drws tân, ewch i:
Gwybodaeth am eich drws tân

Diogelwch Nwy

Mae’n hollbwysig eich bod chi’n deall pa mor bwysig yw ein harchwiliadau boeleri nwy blynyddol. Yn ystod yr wythnos hon, rydym yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Pam mae’r archwiliadau blynyddol hyn yn angenrheidiol.
  • Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr archwiliadau hyn. 
  • Codi ymwybyddiaeth am wenwyn carbon monocsid (CO).

Gwyliwch ein fideo i ddeall pam ein bod yn cynnal yr archwiliadau hyn a beth i’w ddisgwyl.

Ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid:

Mae carbon monocsid yn aml yn cael ei alw’n ‘lladdwr tawel’ gan ei fod yn anweledig, ac nid oes ganddo flas nac arogl. Mae symptomau cynnar o wenwyn CO yn cynnwys cur pen, cyfog, a diffyg anadlu. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Gas Safe Register

Asbestos yn y Cartref a Chydymffurfiaeth o ran Legionella

Ymwybyddiaeth o Asbestos:

Mae asbestos yn ddiogel os na fydd rhywbeth yn amharu arno ond gall achosi risgiau iechyd difrifol os bydd yn cael ei ddifrodi. I’ch helpu i ddod o hyd i asbestos posibl a’i reoli yn eich cartref, rydym wedi creu fideo sy’n ymdrin â’r canlynol:

  • Beth yw asbestos.
  • Ble gallwch ddod o hyd iddo mewn cartrefi.
  • Beth os ydw i’n amau bod asbestos yn y cartref.

Atal Legionella

Gall bacteria Legionella dyfu mewn systemau dŵr os na fydd y dŵr yn cael ei storio neu ei ddefnyddio yn aml, gan arwain at glefyd y llengfilwyr (Legionnaire). I gadw’n ddiogel, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyngor isod: Gadewch i ddŵr redeg o’r tapiau am 5-10 munud bob mis. Glanhewch a diheintiwch bennau cawodydd yn rheolaidd. Os ydych yn denant, rhowch wybod i ni os nad yw eich dŵr poeth yn cynhesu’n iawn. Os ydych yn denant, caniatewch i gontractwyr gynnal profion dŵr. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Legionella Safety Guide.
Canllaw Diogelwch Legionella

Eich diogelwch yw ein prif flaenoriaeth.

Gobeithio fod y cynghorion hyn yn ddefnyddiol ac y byddant yn eich helpu i gadw’n ddiogel rhwng yr archwiliadau cydymffurfiaeth rheolaidd.