Skip to content

Mae adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi canmol Cartref Gofal Merton, ym Mae Colwyn, am ‘agwedd gefnogol y staff’, y tîm ‘cyfeillgar, siaradus, a hwyliog’ ac am ystyried ‘dymuniadau a dyheadau personol’.  

Cyhoeddwyd yr adroddiad chwemisol ar Gartref Gofal Merton Place ym mis Chwefror 2025, o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA), sy’n darparu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r Adroddiad yn edrych ar bedwar maes penodol:

  • Lles
  • Gofal a Chymorth
  • Amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Rheolwr a pherchennog Merton Place yw ClwydAlyn, ac mae’n darparu 54 o leoedd cofrestredig i oedolion oedrannus y mae arnynt angen gofal preswyl, nyrsio neu liniarol. Mae’r cartref gofal pwrpasol yn cynnwys cyfleusterau modern, ac mae’r staff wedi ymroi i ddarparu gofal, cymorth a chwmnïaeth o’r safon uchaf 24 awr y dydd.

Yn dilyn yr arolwg, a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2024, dywedodd AGC fod preswylwyr yn hapus yn byw yn Merton Place, lle darperir cynlluniau personol cynhwysfawr ‘sy’n canolbwyntio ar y ffordd mae’r unigolyn am dderbyn gofal’. Rhoddwyd canmoliaeth hefyd i’r ystafelloedd eang a’r addurniadau a chelfi, yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael, y dewisiadau bwyd maethlon o ansawdd, a’r safonau gofal uchel a ddarperir gan y staff ymatebol sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gorau.

“Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau ein harolwg AGC diweddar. Mae’n dyst i ymroddiad, agwedd dosturiol a gwaith caled pob aelod o’r tîm yn Merton Place; maent wedi ymroi o ddifrif i ddarparu’r gofal gorau. Mae gofalu am les, cysur a diogelwch ein holl breswylwyr yn flaenoriaeth i ni.
“Mae galw mawr am ofal nyrsio o ansawdd da i oedolion oedrannus ledled Gogledd Cymru. Rydym mor falch ein bod wedi ateb y galw hwn ym Mae Colwyn, a chynnig y profiadau gorau posibl i’n holl breswylwyr.
“Rydym yn deall yn iawn bod ymddiried eich anwyliaid i’n gofal ni yn benderfyniad mawr ac emosiynol, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif.
“Hoffem estyn gwahoddiad cynnes iawn i unrhyw un sy’n ystyried dewisiadau gofal i ymweld â Merton Place i weld dros ei hun pa mor hapus a buddiol gall bywyd fod mewn cartref gofal.
“Yn y dyfodol, rydym yn edrych ymlaen i barhau i weithio gydag AGC er mwyn sicrhau bod ein holl gyfleusterau nid yn unig yn bodloni’r safonau gofynnol ond yn rhagori arnynt.”
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth