Skip to content

Mae ClwydAlyn, Cymdeithas Dai yng Ngogledd Cymru, wedi cyhoeddi y bydd gwaith yn ailddechrau ar gynllun tai fforddiadwy ar Lannau Dyfrdwy. Roedd y gwaith ar y datblygiad o 100 o gartrefi wedi dod i ben ar ôl i’r contractwr blaenorol fynd i ddwylo’r gweinyddwyr ond mae’r gwaith bellach wedi ailddechrau gyda chwmni Castle Green Partnerships.

Mae’r datblygiad ar Lannau Dyfrdwy yn rhan o Borth y Gogledd ar hen safle Corus yn Garden City. Cyflwynwyd cais cynllunio diwygiedig ar y cyd rhwng ClwydAlyn a Castle Green Partnerships a gafodd ei gymeradwyo’n ddiweddarach gan Gyngor Sir y Fflint. Bydd Castle Green Partnerships yn darparu 100 o gartrefi newydd ar safle chwe acer ar ran ClwydAlyn, mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru.

Bydd yn cynnwys 24 o fflatiau un ystafell wely, tri bungalo dwy ystafell wely, dau fyngalo tair ystafell wely wedi’u haddasu, 30 o dai dwy ystafell wely, 35 o dai tair ystafell wely, a 6 o dai pedair ystafell wely.

Mae ClwydAlyn a’r cwmni adeiladu o Lanelwy wedi cydweithio’n llwyddiannus yn y gorffennol ac maent yn awyddus i fwrw ymlaen â’r datblygiad mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl, o ystyried yr oedi hyd yma. Y gobaith yw y bydd tenantiaid yn symud i mewn i’w cartrefi newydd erbyn diwedd 2025.

Mae’r holl gartrefi yn rhai am oes ac wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd i anghenion newidiol y preswylwyr, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.

Mae safle Porth y Gogledd ar Ffordd Corus yn safle pwysig iawn i ClwydAlyn.

Bydd y cartrefi hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl leol mewn ardal lle mae galw cynyddol am dai fforddiadwy. Rydyn ni’n falch iawn bod y gwaith ar y prosiect hwn, y mae gwir ei angen, wedi ailddechrau.

Un o’n nodau cyffredinol fel cymdeithas dai yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd, felly rydyn ni’n hynod o falch y bydd y cartrefi hyn yn elwa ar y dechnoleg effeithlonrwydd ynni ddiweddaraf. Bydd hyn nid yn unig yn sicrhau eu bod nhw’n addas i’r dyfodol ac yn ein helpu ni i wireddu ein hymrwymiad i’r hinsawdd, ond yn bwysicach fyth, bydd preswylwyr hefyd yn elwa ar gartrefi mwy cyfforddus, a biliau ynni is.

Bydd yr holl gartrefi yn cael eu gwresogi gan bympiau gwres ffynhonnell aer a byddant yn cynnwys paneli solar trydan.

Craig Sparrow
Cyfarwyddwr gweithredol datblygu ClwydAlyn

Mae’r cantrefi yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio fframiau pren manwl-gywir, o ffynonellau cynaliadwy. Mae hwn yn ddull adeiladu cyflym a dibynadwy, sy’n cynhyrchu llai o allyriadau CO2 na dulliau adeiladu traddodiadol. Bydd maes chwarae yn cael ei ddarparu ar y safle hefyd, yn cynnwys siglenni, llithren, a si-so, er mwyn annog plant i chwarae yn lleol.

Esboniodd Eoin O’Donnell, cyfarwyddwr Castle Green Partnerships: “Mae cynllun Glannau Dyfrdwy yn garreg filltir i’r cwmni gan ein bod bellach wedi ennill contract i ddarparu dros fil o dai fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda ClwydAlyn i fynd drwy’r system gynllunio er mwyn addasu dyluniad y cartrefi, cael caniatâd cynllunio a dod ar y safle mewn llai na blwyddyn. Rydyn ni’n cydnabod yr angen cynyddol am dai fforddiadwy ac rydyn ni wedi ymrwymo i helpu cymdeithasau tai i ddarparu’r cartrefi hyn yn brydlon.”

I gael rhagor o wybodaeth am dai fforddiadwy ClwydAlyn yn ardal Glannau Dyfrdwy ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/developments/northern-gateway-deeside.