Skip to content

Mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai o ogledd Cymru, ymhlith y gorau yn y DU am ddarparu cartrefi newydd ynni-effeithlon sy’n cyrraedd safon A EPC, dros y 12 mis diwethaf.

Mewn arolwg o dros 100 o gymdeithasau tai a gynhaliwyd gan Inside Housing, daeth ClwydAlyn yn y pedwerydd safle ar ôl adeiladu 162 o gartrefi newydd yn ystod 2023/24, y mae 90% ohonynt wedi ennill Tystysgrifau Effeithlonrwydd Ynni (EPC) Band A.

Gall cartrefi gyda sgôr A EPC arwain at haneru biliau gwres o’u cymharu â chartrefi gyda sgôr B. Mae’r rhan fwyaf o gartrefi newydd ClwydAlyn sydd wedi cyrraedd y safon hwn yn gartrefi gwyrdd carbon isel, ac maent yn rhan allweddol o ymrwymiad y sefydliad i wneud cartrefi mor fforddiadwy â phosibl i breswylwyr eu cynhesu fel rhan o’i genhadaeth i drechu tlodi.

Ymhlith y cynlluniau a gwblhawyd dros y 12 mis diwethaf mae 52 o gartrefi newydd ynni-effeithlon yn Hen Ysgol y Bont, Llangefni a adeiladwyd gan ddefnyddio technolegau fwy gwyrdd a dyluniadau arloesol, a 63 o gartrefi newydd ar safle Glasdir yn Rhuthun, a adeiladwyd gan ddefnyddio technoleg carbon isel a dulliau adeiladu modern.

Nod ClwydAlyn yw trechu tlodi yng ngogledd Cymru, a’r unig ffordd y gallwn wireddu’r uchelgais hwn yw drwy gynyddu’n sylweddol y cyflenwad o gartrefi ynni-effeithlon, o ansawdd da, y gall preswylwyr fforddio eu cynhesu a byw yn dda ynddynt.

Rydyn ni’n gweithio’n galed gyda’n partneriaid i arloesi wrth ddylunio ein cartrefi gan ddefnyddio technolegau cynaliadwy i gyrraedd lefelau uchel o ran effeithlonrwydd ynni, a bydd hyn yn parhau’n flaenoriaeth allweddol i ni yn y dyfodol. Mae’n wych bod ClwydAlyn yn cael ei gydnabod am lwyddo yn y maes hwn, ond yn bwysicach fyth, rydyn ni’n gwybod fod y cartrefi hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau ein preswylwyr ac, fel sector, mae’n hollbwysig ein bod ni’n dal ati i gynyddu nifer y cartrefi sgôr A EPC ledled y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r prinder tai.
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Mae’r cartrefi newydd a adeiladwyd dros y 12 mis diwethaf yn rhan o raglen ddatblygu 5 mlynedd uchelgeisiol ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng ngogledd Cymru erbyn 2025 trwy fuddsoddi £250m. Mae’r sefydliad wedi cyrraedd carreg filltir allweddol yn ddiweddar gan adeiladu dros 1,000 o gartrefi newydd.

Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer codi rhagor o gartrefi newydd fel rhan o’r cynllun pum mlynedd newydd a fydd yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2025, gan gynnal ac adeiladu ar ymrwymiad cryf y sefydliad i ddarparu cartrefi carbon isel, ynni-effeithlon i breswylwyr.