Mae ClwydAlyn yn falch o gyhoeddi bod Bwrdd y busnes teuluol, y Rosa Hovey Housing Trust, wedi cysylltu â ni i gymryd ei gyfrifoldebau i fod yn berchen ar 12 o gartrefi yn sir Conwy a’u rheoli.
Trwy drosglwyddo cyfrifoldebau, asedau ac ymrwymiadau’r Rosa Hovey Housing Trust dangosir yr ymddiriedaeth â’r enw da y mae ClwydAlyn wedi eu llunio dros y blynyddoedd yn y sector tai. Mae’n anrhydedd i ni bod y Rosa Hovey Housing Trust wedi ein dewis ni i barhau etifeddiaeth yr Ymddiriedolaeth.
Sefydlwyd y Rosa Hovey Housing Trust yn yr 1930au i ffurfio etifeddiaeth i’r teulu Hovey. Rosa Hovey oedd Prifathrawes Ysgol Merched Penrhos ym Mae Colwyn rhwng 1894 a 1928.
Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn fuan ar ôl marwolaeth Rosa i: ‘Ddarparu llety rhesymol i bobl haeddiannol sy’n gweithio ar incwm isel am rent fforddiadwy a henoed.’
Adeiladwyd pedwar o dai, gan gynyddu’n raddol i’r deuddeg presennol. Mae tri fflat a naw o dai.
Mae ClwydAlyn yn ymroddedig i gynnal y safonau eithriadol ac mae cael y 12 cartref yma yn ein galluogi i gynyddu’r tai sydd gennym i’w cynnig yng Nghonwy. Er mwyn parhau etifeddiaeth Rosa Hovey, byddwn yn enwi stryd neu ddatblygiad yng Nghonwy yn enw Rosa.