Skip to content

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth cymdeithas dai ClwydAlyn groesawu’r Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol, Jane Bryant AS, i weld y dechnoleg newydd arloesol sy’n gwneud cartrefi yn fwy effeithlon a fforddiadwy i’w gwresogi yn Llanelwy, a datblygiad newydd sy’n cael ei adeiladu i’r safonau uchaf o ran effeithlonrwydd yn Rhuthun.

Yn Llanelwy, bu’r Ysgrifennydd Cabinet yn Llys Esgob Morgan i weld prosiect a gwblhawyd ochr yn ochr â chwmni NexGen Heating diolch i arian Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) Llywodraeth Cymru. Gosodwyd paneli isgoch NexGen mewn 28 cartref fel rhan o raglen ôl-osod ClwydAlyn.

Mae’r dechnoleg arloesol yn gosod gwres pelydrol isgoch mewn haenau tenau o bapur leinin sy’n cael eu rhoi ar nenfwd pob ystafell. Yn wahanol i system wresogi gonfensiynol, mae’r dechnoleg yn cynhesu gwrthrychau yn yr ystafell yn hytrach na’r aer gan olygu fod preswylwyr yn teimlo’r gwres yn gynt ac yn arbed arian ar eu biliau ynni.

Un o fanteision eraill y dechnoleg yw y gall helpu i leihau’r tebygolrwydd o damprwydd a llwydni gan fod yr isgoch yn cael ei amguso gan waliau, nenfydau ac arwynebau eraill, gan sychu unrhyw fannau tamp.

Yn ogystal ag uwchraddio’r systemau gwresogi, mae paneli solar yn cael eu gosod yn y cartrefi a bydd batris hefyd yn cael eu gosod yn rhai ohonynt fel rhan o’r grant ORP.

Cafodd yr Ysgrifennydd Cabinet gyfle i ymweld â’r cynllun yng nghwmni Cadeirydd ClwydAlyn, Cris McGuinness, y Prif Weithredwr, Clare Budden, Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu, a Tom Boome, Pennaeth Arloesedd Technegol a Hinsawdd, sy’n arwain y rhaglen ôl-osod.

Mae’n wych gweld arian Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i dreialu datrysiadau arloesol fel y paneli isgoch hyn, sy’n gwneud cartrefi yn fwy effeithlon ac yn helpu’r preswylwyr i arbed arian ar eu biliau ynni, yn dibynnu ar faint o ynni maent yn ei ddefnyddio.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Dywedodd Cris McGuinness, Cadeirydd ClwydAlyn: “Roedden ni wrth ein boddau i groesawu Jayne Bryant AS i weld y mathau o dechnoleg rydyn ni wedi gallu eu hôl-osod yn ein cartrefi presennol drwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth i drechu tlodi yn ClwydAlyn drwy wneud ein cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni, ac yn fwy fforddiadwy i’n preswylwyr eu cynhesu, ac yn bwysicaf oll, cefnogi iechyd da a lles drwy leihau’r tebygolrwydd o damprwydd a llwydni.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen i ddysgu sut mae preswylwyr yn elwa ar y technolegau hyn a’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud i’w defnydd o ynni, yn ogystal â’r effaith ar eu lles. Byddwn yn gallu defnyddio’r wybodaeth hon i rannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar draws y sector fel y gall pawb yng Ngogledd Cymru fyw mewn cartrefi diogel a chynnes y gallan nhw fforddio eu cynhesu a byw’n dda ynddyn nhw.”

Un o’r preswylwyr sy’n elwa ar y dechnoleg newydd yw Mary Peers, a ddywedodd: “Rwyf fi  a’r gŵr mor falch i gael y dechnoleg newydd hon yn ein cartref. Rydyn ni wedi bod yn defnyddio gwresogyddion storio trydan i gynhesu ein cartrefi ac mae ein biliau wedi bod yn eithriadol o uchel.

“Roedden ni wedi cyrraedd pwynt lle roedden ni’n ddim ond yn gallu fforddio cynhesu un ystafell yn ystod y dydd, a’r ystafell wely am awr bob nos er mwyn ceisio rheoli’r gost. Rydyn ni’n gobeithio unwaith y byddwn ni’n dechrau defnyddio’r system gwres pelydrol y bydd ein biliau yn gostwng ac y bydd yn haws i ni gadw ein cartref yn gynnes heb boeni cymaint am ein bil ynni. Mae tîm ClwydAlyn wedi gwneud gwaith gwych wrth osod y system, bydd nid yn unig yn ein helpu i gynhesu’r cartref yn well, mae hefyd wedi gwella edrychiad ein hystafelloedd hefyd!”

Ychwanegodd Tom Boome, Pennaeth Arloesedd Technolegol a Hinsawdd ClwydAlyn,: “Mae arian y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi bod yn drawsnewidiol, gan ein galluogi i wneud llawer mwy o’r gwaith hwn, ymgysylltu â’r gadwyn gyflenwi a buddsoddi mewn pobl a phrosesau fel ein bod mewn sefyllfa i roi pethau ar waith yn ein cynlluniau yn y dyfodol.

“Trwy annog y sector i dreialu, dysgu ac arloesi, mae cymdeithasau tai yng Nghymru wedi croesawu’r cyfle i gydweithio a rhannu gwersi ac arloesedd fel y gallwn gynnig y datrysiadau gorau posibl i breswylwyr a gwneud eu cartrefi yn fwy effeithlon o ran ynni.”

Fel rhan o’i hymweliad â Gogledd Cymru, fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd ymweld â datblygiad ClwydAlyn yn Rhuthun. Cafodd Glasdir, datblygiad o 63 o gartrefi ei adeiladu mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, gydag rhywfaint o arian o’r Rhaglen Tai Arloesol.

Mae’r cartrefi yn cynnwys amryw o nodweddion effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys pympiau gwres ffynhonnell aer, paneli trydan solar, batris storio trydan solar, a chyfleusterau gwefru ceir trydan. Adeiladwyd y cynllun gyda chymorth carcharorion Carchar Ei Fawrhydi Berwyn, lle sefydlwyd uned ffatri gyda 25 o garcharorion yn cynhyrchu’r fframiau pren. Yn ôl y preswylwyr, mae eu biliau ynni wedi gostwng hyd at £10-£15 yn dibynnu ar eu defnydd o ynni.