Mae ClwydAlyn Housing, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, wedi’u hanrhydeddu gyda’r Wobr am fod y Mudiad Gorau er Iechyd a Diogelwch a Lles yng Ngwobrau Arfer Gorau Working Families 2024, gan gydnabod eu hymrwymiad eithriadol tuag at iechyd eu gweithwyr a mentrau lles arloesol.
Working Families ydy elusen genedlaethol y DU ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n gweithio, ac mae eu gwobrau blynyddol yn clodfori cyflogwyr blaenllaw a hyrwyddwyr sy’n ystyriol o deuluoedd sy’n gosod safonau newydd ar gyfer gweithleoedd sy’n gweithredu er lles y gweithwyr.
Llwyddodd Cymdeithas Dai ClwydAlyn i gipio’r wobr am eu hymrwymiad tuag at lesiant eu gweithwyr, a gadarnhawyd gan eu Marc Ansawdd Llesiant lefel Aur diweddar gan Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Gan eu bod nhw ond yn un o bum mudiad yng Nghymru gyda’r logo Marc Ansawdd Aur, ynghyd ag yn meddu ar 145 aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, mae’r gymdeithas dai a’u Tîm Iechyd a Llesiant yn amlwg yn angerddol dros ofalu am hapusrwydd a boddhad eu gweithwyr.
Hoffwn estyn llongyfarchiadau i bawb wnaeth gyrraedd y rownd derfynol am eu hymrwymiad i fod yn gyflogwyr sy’n barod i weithredu’n wahanol a mynd y tu hwnt i’r galw ar gyfer eu pobl a’u busnes. Mae eu polisïau arbennig sy’n addas i deuluoedd ac arferion cefnogol yn help i drawsnewid y byd gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel bod modd i bawb, o deuluoedd i fusnesau, elwa o’r buddion.