Mae Tai ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol blaenllaw yng Ngogledd Cymru, yn edrych i’r dyfodol yn llawn optimistiaeth. Mae’r adroddiad diweddaraf gan S&P Global Ratings yn tynnu sylw at sefyllfa ariannol gadarn y sefydliad, gan arwain y ffordd at dwf a datblygiad parhaus.
Roedd yr adroddiad yn cadarnhau sgôr credyd ‘A’ gwych ClwydAlyn, gan nodi bod adnoddau ariannol y gymdeithas dai yn ddigonol iawn ar gyfer ei chynlluniau gwario. Gyda rhagamcanion o £129 miliwn, gan gynnwys arian parod, buddsoddiadau, a chyfleusterau credyd heb eu defnyddio, mae ClwydAlyn mewn sefyllfa gref i wynebu’r £74 miliwn o wariant cyfalaf a thaliadau dyledion.
Mae’r sefyllfa ariannol gadarn hon yn newyddion da iawn i gefnogi cenhadaeth ClwydAlyn i drechu tlodi. Gyda’r sylfaen gadarn hon mae ClwydAlyn yn barod i symud ymlaen yn hyderus gyda chynlluniau uchelgeisiol i adeiladu ac adnewyddu cartrefi ledled Gogledd Cymru.
Roedd Cris McGuinness, Cadeirydd Bwrdd ClwydAlyn, yn falch iawn o glywed hyn: “Rydym wrth ein bodd i rannu’r newyddion fod ClwydAlyn yn dal i fod mewn sefyllfa ariannol gadarn. Mae hyn yn golygu y gallwn barhau i fuddsoddi mewn prosiectau yn y dyfodol a chynnal cartrefi o ansawdd yng Ngogledd Cymru.”
Ers 2018, mae ClwydAlyn wedi darparu 730 o gartrefi, ac mae gan y gymdeithas gynlluniau i ychwanegu 1,000 erbyn 2027/28. I gael rhagor o wybodaeth am Tai ClwydAlyn, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk