Mae Llys y Waun yn cynnig amgylchedd cynnes, cyfeillgar a chartrefol gyda 66 o ystafelloedd en-suite i bobl 60 oed a hŷn.
Llesiant, gofal, cysur ac ansawdd bywyd i breswylwyr yw ein prif amcan. Mae gan y cartref enw rhagorol yn lleol am ofal o safon uchel.
Gyda dros 25 mlynedd o brofiad o gynnig gofal a chefnogaeth o safon uchel, mae Llys y Waun wedi ymestyn ei wasanaethau i fodloni anghenion preswylwyr sy’n byw gyda dementia, sy’n cynnwys estyniad newydd wedi ei adeiladu i’r diben a orffennwyd yng ngwanwyn 2016.
Mae’r uned dementia, a adeiladwyd i’r diben yn cynnig cyfleusterau modern iawn, gyda phedwar ‘aelwyd’ gofal dementia, wedi eu dylunio i safon uchel, pob un ohonynt yn cartrefu 14 o breswylwyr. Seiliwyd y dyluniad ar safonau ac egwyddorion Darparu Gofal Dementia Rhagorol Prifysgol Stirling.
Saif y cartref mewn ardal breswyl dawel yn y Waun, Wrecsam ac mae o fewn cyrraedd rhwydd i’r cyfleusterau yn y gymuned. Mae trafnidiaeth leol ar gael gan gynnig gwasanaeth cyson i ardaloedd Wrecsam, Croesoswallt a Llangollen.
Credwn mewn hyrwyddo annibyniaeth gyda chefnogaeth i fodloni anghenion pob unigolyn ac rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol, gyda diddordebau amrywiol. Mae digon o ofod gyda lolfeydd ar bob llawr, gan alluogi preswylwyr i gymdeithasu os dymunant, gyda lle i ddilyn eu diddordebau unigol.
Mae arnoch eisiau tawelwch meddwl, bod yn gyfforddus ac annibyniaeth ac fe fydd Llys y Waun yn rhoi hyn i gyd i chi. Rheolir y cartref gan dîm profiadol o staff ac rydym yn ddarparwyr llety arbenigol sydd wedi hen sefydlu ac sydd â pharch mawr.
Ein dull yw gofal sy’n rhoi’r pwyslais ar yr unigolyn, gan ganolbwyntio ar anghenion, gofal a chefnogaeth i’r unigolyn – i gadw preifatrwydd, urddas, annibyniaeth a dewis