Yr wythnos ddiwethaf daeth tri o aelodau staff Cartref Gofal Merton Place, Bae Colwyn, at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant a derbyn cydnabyddiaeth am ychwanegu at eu cymwysterau proffesiynol.
Roedd y ‘Digwyddiad Cydnabod Staff’ diweddar yn Merton Place yn gyfle i ddathlu ymroddiad, gwaith caled, a llwyddiant tri aelod o’r tîm.
Mae Merton Place yn gartref gofal 54 gwely, sy’n cynnig gofal preswyl, nyrsio a lliniarol mewn adeilad pwrpasol. Roedd ClwydAlyn, perchennog a rheolwr Merton Place, yn awyddus i ddathlu llwyddiant y tri aelod staff. Roedd yn gyfle i gydnabod eu hymdrech sylweddol i ennill cymwysterau proffesiynol ac astudio tra’n cydbwyso gwaith a bywyd cartref.
“Mae clywed am yr holl sgiliau sy’n cael eu datblygu ar draws ein sefydliad gan ein cydweithwyr yn wirioneddol ysbrydoledig; yn ogystal â datblygu eu gallu eu hunain, maen nhw hefyd yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n preswylwyr.”
Enillodd Dorrinda Rogers gymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, enillodd Sisley Quirol Dystysgrif Lefel 4 Addysg Uwch mewn Nyrsio Oedolion ac enillodd Brenda Dube Dystysgrif Addysg Uwch mewn Ymarfer Gofal Iechyd.
Aelodau’r tîm yn Merton Place yn ymuno â’u cydweithwyr i ddathlu eu llwyddiant wrth ennill cymwysterau newydd.
Diwrnod Recriwtio Gofalwyr
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes gofal, mae Merton Place yn cynnal ‘Diwrnod Recriwtio’, ddydd Mercher, 9 Ebrill.
Mae’r tîm yn awyddus i groesawu unrhyw un sydd â phrofiad yn y maes neu sy’n teimlo’n angerddol dros ofalu am bobl eraill a rhoi cymorth iddynt. Bydd y swyddi sydd ar gael yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i gael dealltwriaeth gadarn o’r sector gofal cymdeithasol tra’n cael profiadau gwerthfawr ac astudio ar gyfer cymwysterau perthnasol.
Gall darpar ymgeiswyr gadw lle ar weithdy dwy awr o hyd i ddysgu rhagor am y swyddi sydd ar gael.
Cynhelir tri sesiwn (10am-12pm, 2pm – 4pm neu 6pm – 8pm). Bydd pob un o’r sesiynau yn cynnwys taith o amgylch y cartref, cyfle i sgwrsio â’r staff presennol, cael rhagor o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael, ac amser i ofyn cwestiynau am y cyfleoedd i ddysgu a datblygu. Bydd cyfle hefyd i ddysgu rhagor am y broses recriwtio a sut i ymgeisio am swydd.
I gadw lle ar y diwrnod recriwtio, anfonwch e-bost atom: DL_MertonPlace_admin@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch: 01492 523 375.
I gael rhagor o wybodaeth am Merton Place neu ClwydAlyn, ewch i: Merton Place – Clwydalyn