Preswylwyr wrth eu boddau: Teuluoedd yn symud i mewn i’w Cartrefi Newydd ym Maes Deudraeth, Eryri
Cafodd preswylwyr eu croesawu i’w cartrefi newydd ym Maes Deudraeth, Penrhyndeudraeth yr wythnos hon. Mae’r cartrefi, sy’n cynnwys 41 o dai a fflatiau ynni-effeithlon wedi’u hadeiladu o fframiau pren, yn rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd ac maent wedi’u datblygu gan ClwydAlyn a Grŵp Cynefin.