Mae CASTLE Green Partnerships yn gweithio gyda ClwydAlyn i ddarparu 56 o gartrefi fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni ym Mynydd Isa.
ClwydAlyn yw’r drydedd gymdeithas dai i weithio mewn partneriaeth gyda’r busnes o Lanelwy, sy’n rhan o Castle Green Homes.
Bydd cynllun Mynydd Isa, ynghyd â datblygiadau ar ran Adra a Torus, yn golygu y bydd Castle Green Partnerships yn darparu dros 900 o dai fforddiadwy yn y tair neu bedair blynedd nesaf.
Rhoddwyd caniatâd cynllunio llawn i ClwydAlyn ar gyfer y cynllun ar Ffordd yr Wyddgrug ym Mynydd Isa ym mis Ionawr 2021. Ers hynny mae Castle Green Partnerships wedi ymuno ac mae wedi cyflwyno cais i newid y mathau o gartrefi ym mis Gorffennaf 2023, ar ôl i gontractwr blaenorol dynnu’n ôl o’r cynllun.
Dechreuodd y gwaith cychwynnol ar y safle ym mis Awst 2023 a chafodd y cynlluniau diwygiedig eu cymeradwyo ym mis Hydref.
Dywedodd cyfarwyddwr Castle Green Partnerships Eoin O’Donnell: “Dyma’r safle cyntaf y bydd Castle Green Partnerships yn ei ddarparu ar gyfer ClwydAlyn. Yn wreiddiol, roeddem wedi ennill contract i adeiladu’r ffyrdd a’r carthffosydd ac yna gwnaethom gytuno i adeiladu’r safle cyfan, gan selio ein perthynas â ClwydAlyn. Mae hyn yn gam mawr ymlaen i Partnerships ac mae’n golygu ein bod wedi ein contractio i adeiladu dros 900 o dai fforddiadwy.
“Ni fu erioed fwy o angen am dai fforddiadwy. Ein nod yw darparu tai fforddiadwy o ansawdd, sydd wedi’u dylunio’n dda, ac sy’n effeithlon o ran tanwydd. Bydd cynllun Mynydd Isa yn gwneud cyfraniad gwerthfawr iawn i dai fforddiadwy yn Sir y Fflint, gan gynnig cymysgedd o eiddo cymdeithasol a rhent canolraddol.”
Bydd y datblygiad yn cynnwys amrywiaeth o gartrefi, o fflatiau un llofft, i fyngalos dwy a thair llofft, a thai dwy a thair llofft.
Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Awst 2023.
Bydd y cartrefi cyntaf wedi’u cwblhau ac yn barod ar gyfer y preswylwyr cyntaf erbyn y gaeaf 2024, a disgwylir y bydd y datblygiad cyfan wedi’i orffen erbyn yr hydref 2025.
Mae’r cartrefi ym Mynydd Isa yn rhan o uchelgais ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025, gyda buddsoddiad cyffredinol disgwyliedig o £250 miliwn.
Dywedodd Penelope Storr, Pennaeth Datblygiad a Thwf ClwydAlyn: Rydym yn falch o rannu’r newyddion am ein partneriaeth gyda Castle Green i ddarparu 56 o dai fforddiadwy, effeithlon o ran ynni. Mae’r bartneriaeth yn dangos ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a darparu dewisiadau tai o ansawdd i’r gymuned.
Mae fframiau pren, manwl-gywir, o ffynonellau cynaliadwy yn cael eu defnyddio i adeiladu’r tai. Mae hwn yn ddull adeiladu cyflym a dibynadwy, sy’n cynhyrchu llai o allyriadau CO2 na dulliau adeiladu traddodiadol.
Bydd y tai yn cynnwys paneli solar a batrïau, pwmp gwres ffynhonnell aer a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, gan sicrhau eu bod yn effeithlon o ran ynni ac yn gost-effeithiol o ran costau rhedeg.
Er mwyn cynnal bywyd gwyllt yr ardal, bydd ysgubor yn cael ei hadeiladu ar y safle lle gall ystlumod lleol glwydo. Bydd 1.5 acer o dir agored yn cael ei ddarparu fel rhan o’r datblygiad, gan gynnwys ardaloedd plannu a hau cymysg, isel er budd y micro-hinsawdd.
Yn ogystal â datblygiad Mynydd Isa ar ran ClwydAlyn, mae Castle Green Partnerships yn gweithio gydag Adra i ddarparu 212 o dai fforddiadwy yn Ninbych a Phrestatyn, a hynny ar ôl darparu 65 o gartrefi yn Drury ac Alltmelyd. Mae hefyd wedi creu partneriaeth gyda Torus i ddarparu 589 o gartrefi, gan gynnwys cymysgedd o eiddo rhent fforddiadwy a pherchnogaeth ar y cyd ar safleoedd yn Crewe, Daresbury, Congleton a Thornton, Sefton.