Skip to content

Mae’r gymdeithas dai o Ogledd Cymru, ClwydAlyn yn falch o gyhoeddi bod 52 o gartrefi effeithlon iawn o ran ynni yn Hen Ysgol y Bont yn Llangefni, a elwir yn awr yn Maes yr Ysgol a Stryd y Bont bellach wedi eu cwblhau. Croesawyd y preswylwyr oedd yn weddill i’w cartrefi newydd ar ddydd Llun 2 Hydref.

Mae cwblhau’r datblygiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad ClwydAlyn i ddarparu tai o safon a fforddiadwy i breswylwyr yng Ngogledd Cymru. Mae ymrwymiad ClwydAlyn i greu cartrefi effeithlon o ran ynni yn ganolog i’w genhadaeth o frwydro yn erbyn tlodi, a ninnau yn ddiweddar wedi’n cydnabod yn un o’r datblygwyr cartrefi cynaliadwy sy’n arwain y blaen yn y Deyrnas Unedig. Trwy sicrhau’r gwerth cymdeithasol mwyaf sy’n cael ei greu gan ei gartrefi, mae’n ceisio gwella bywydau preswylwyr a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Gwahoddwyd yr Aelod Seneddol Virginia Crosbie, i weld y manteision drosti ei hun, gan fwynhau taith o amgylch y safle cyn i’r goriadau gael eu rhoi i’r preswylwyr.

Mynegodd Virginia Crosbie AS ei chefnogaeth i’r prosiect, gan ddweud:

‘‘Rwy’n falch o weld y cydweithio hwn rhwng ClwydAlyn, Cyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cartrefi fforddiadwy hanfodol yma. Nid yn unig mae’r gwaith hwn yn ymdrin â heriau tai ond mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd partneriaethau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.”
Virginia Crosbie
Aelod Seneddol
“Rydym yn falch iawn bod y datblygiad tai hwn yn Llangefni wedi cael ei gwblhau yn llwyddiannus. Mae’n tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu tai o ansawdd i denantiaid a theuluoedd lleol yn eu cymunedau oedd yn rhan allweddol o faniffesto Plaid Cymru.

Mae Ein Strategaeth Tai 2022-2027 yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth i ni weithio ar y cyd gyda phartneriaid allweddol, i fodloni anghenion ein preswylwyr lleol yn awr ac i’r dyfodol.”
Dirprwy Arweinydd a deiliad
portffolio Plant Ieuenctid a Thai Cyngor Ynys Môn

Wedi eu hadeiladu gyda thechnolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi hyn yn effeithlon iawn o ran ynni ac yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, yn amrywio o fyngalos, fflatiau a thai pâr.  Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.

Trwy adeiladau cartrefi effeithlon o ran ynni nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a gwella iechyd a llesiant eu preswylwyr.

Adeiladwyd y datblygiad gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru; gydag arian yn rhannol trwy’r Rhaglen Tai Blaengar.