Tîm Asedau ClwydAlyn yn cefnogi Teuluoedd Digartref Sir y Fflint dros y Nadolig
Mae aelodau Tîm Asedau ClwydAlyn wedi defnyddio eu henillion o gystadleuaeth fewnol, ynghyd â chyfraniad gan bartner cefnogol, i brynu detholiad o anrhegion a danteithion Nadolig i deuluoedd sy’n byw mewn llety dros dro dros gyfnod yr ŵyl.