Yn ddiweddar, cynhaliwyd diwrnod agored llwyddiannus iawn yn Norfolk House, adeilad Fictoraidd hanesyddol sy’n rhan o Gynllun Byw â Chymorth Tai ClwydAlyn. Yn ystod y digwyddiad, mynegwyd teimladau cadarnhaol iawn gan bawb a oedd yn bresennol. Roedd y digwyddiad yn gyfle unigryw i randdeiliaid weld drostynt eu hunain yr amgylchedd arbennig a’r cymorth cynhwysfawr a gynigir i breswylwyr gan Tai ClwydAlyn, darparwr tai cymdeithasol a gofal blaenllaw.
Mae Norfolk House yn Sir Conwy yn hafan i oedolion sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref. Mae’r cartref nid yn unig yn cynnig cymorth 24 awr a hafan diogel, mae hefyd yn grymuso’r preswylwyr i oresgyn heriau, ailadeiladu eu bywydau, a dod yn rhan o gymuned ofalgar.
Roedd y diwrnod agored yn llwyddiant ysgubol, a chafodd ganmoliaeth uchel gan arweinwyr lleol blaenllaw gan gynnwys y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Andy Dunbobbin, y Maer Ricky Owen a’r Faeres Delia Owens o Fae Colwyn, a’r Cynghorydd Emily Owen o Gyngor Conwy. Yn ystod y digwyddiad cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd ar daith o amgylch yr adeilad a chael golwg fanylach ar ymrwymiad Tai ClwydAlyn i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol i’r holl breswylwyr. Roedd cyfle i bawb sgwrsio â’r staff ymroddedig a’r preswylwyr a chael cipolwg gwerthfawr ar y ffordd mae gwasanaethau’r gymdeithas dai wedi newid bywydau a’r ymdrechion ar y cyd sy’n gwella ansawdd bywydau’r rhai sy’n derbyn cymorth.
Mae cyfarfod y Prif Weithredwr, Clare Budden, a’r staff ymroddgar wedi cadarnhau fy marn bod y cyfleusterau hyn yn chwarae rhan hanfodol yng Ngogledd Cymru. Mae’r rhaglenni a’r mentrau a gynigir yn Norfolk House yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sy’n gysylltiedig am eu hymrwymiad diflino i gefnogi’r rhai mewn angen.
Roedd eu croeso cynnes a’r gwaith pwysig maent yn ei wneud bob dydd yn enghreifftiau gwych o’r ysbryd tosturiol sy’n gwneud ein cymuned yn gryf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Emily Owen o Gyngor Conwy at bwysigrwydd cyfleusterau fel Norfolk House yng Ngogledd Cymru: “Mae Norfolk House yn gam hanfodol ymlaen yn ein hymrwymiad i ddarparu datrysiadau tai cynaliadwy i rai o’n preswylwyr mwyaf agored i niwed. Trwy gynnig amgylchedd diogel a chefnogol, rydym yn grymuso unigolion i ailadeiladu eu bywydau a chael sefydlogrwydd hirdymor.”
“Mae’r ymdrechion ariannu ar y cyd yn galluogi ClwydAlyn i gyflawni’r prosiect hwn, ac mae’n arwain y ffordd i ddyfodol mwy disglair a gobeithiol i lawer o bobl yn ein cymuned yng Nghonwy. Mae Norfolk House yn fwy na phrosiect tai; mae’n lle sy’n trawsnewid bywydau.”
Mynegodd Clare Budden, Prif Weithredwr ClwydAlyn, ei balchder yn llwyddiant y digwyddiad a’r gwaith parhaus yn Norfolk House: “Mae’r gefnogaeth anhygoel rydym wedi’i derbyn yn ystod diwrnod agored Norfolk House yn dyst i ymrwymiad ein staff a chryfder ein partneriaethau cymunedol. Mae ClwydAlyn wedi ymroi nid yn unig i gynnig to uwch bennau pobl, ond hefyd amgylchedd diogel a chefnogol lle gall ein preswylwyr ailadeiladu eu bywydau ag urddas a gobaith.”
I gael rhagor o wybodaeth am Tai ClwydAlyn, ewch i: https://www.clwydalyn.co.uk/