Cafodd preswylwyr eu croesawu i’w cartrefi newydd ym Maes Deudraeth, Penrhyndeudraeth yr wythnos hon. Mae’r cartrefi, sy’n cynnwys 41 o dai a fflatiau ynni-effeithlon wedi’u hadeiladu o fframiau pren, yn rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd ac maent wedi’u datblygu gan ClwydAlyn a Grŵp Cynefin.
Mae 41 o gartrefi newydd sbon yng nghalon Eryri. Mae’r datblygiad newydd yn ffrwyth llafur cynllun arloesol gwerth £10 miliwn a adeiladwyd gan gwmni Williams Homes (Bala) ar ran ClwydAlyn a Grŵp Cynefin ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Mae sicrhau mynediad i dai fforddiadwy yn hanfodol i gynaliadwyedd hirdymor cymunedau anghysbell ledled Cymru. Defnyddiwyd dulliau adeiladu modern i godi’r cartrefi ffrâm bren, diogel, cynnes o ansawdd uchel; mae hyn yn sicrhau y bydd yr eiddo newydd ynni-effeithlon yn rhad i’w rhedeg ac yn gynaliadwy iawn.
Lle bo’n bosibl, defnyddiwyd defnyddiau a gyrchwyd yn lleol, a gweithle a chyflenwyr lleol, gan gryfhau’r cysylltiadau â’r gymuned.
Mae’r teuluoedd sy’n symud i mewn i’r cartrefi hyn, y bu llawer ohonynt yn aros am rywle addas a fforddiadwy i fyw am sawl blwyddyn, wrth eu boddau eu bod yn gallu cadw eu cysylltiad â’u cymuned leol; gan fyw, gweithio a chyfrannu at yr ardal sy’n gartref iddynt.
“Rwy’n dal i feddwl mai breuddwyd yw’r cyfan! Rwy’n ddiolchgar iawn i ClwydAlyn a Barry, fy Swyddog Tai, am ei holl gymorth.”
“Mae prinder tai difrifol yn lleol, ac mae diffyg tai fforddiadwy i deuluoedd ac unigolion. O ystyried y diffyg tai, a’r ffaith bod prisiau tai yn cynyddu a sefyllfa ariannol pobl yn gwaethygu, rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi gallu creu’r gymuned sefydlog yma.
“Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda Grŵp Cynefin ar y cynllun hwn, sy’n adlewyrchu cymeriad arbennig Eryri, tra’n bodloni anghenion pobl leol.”
“Mae’r datblygiad hwn yn golygu llawer mwy na brics a mortar – mae’n newid bywydau pobl er gwell.
Mae’r datblygiad yn rhan o Raglen Datblygu Tai Fforddiadwy Gwynedd sy’n ceisio cyflawni nod y Cyngor o ddatblygu 700 o dai cymdeithasol ledled y sir yn ystod oes y Cynllun Gweithredu Tai.
I gael rhagor o fanylion am y cartrefi, ewch i: Maes Deudraeth, Penrhyndeudraeth – Clwydalyn / Canol Cae, Penrhyndeudraeth – Grŵp Cynefin






