Skip to content

Roedd pawb yn wên o glust i glust yr wythnos hon pan groesawodd preswylwyr cartref gofal Merton Place ymwelwyr bach pluog, a’r plant ysgol a wnaeth helpu i’w deor!

Mae disgyblion ysgol Rydal Penrhos, ger cartref gofal Merton Place ym Mae Colwyn, wedi bod yn cadw golwg barcud ar yr wyau yn neorydd y dosbarth, ac yn cyfrif y dyddiau nes i’r cywion gyrraedd. Pan ddechreuodd yr wyau gracio, a daeth y cywion bach melyn i’r golwg, roedd y plant yn awyddus i rannu’r hwyl gyda’u ffrindiau oedrannus yn Merton Place.

“Roedd yn brofiad gwerth chweil i’n preswylwyr. Roedd y plant yn edrych ymlaen yn fawr i ddangos y cywion a gafodd eu deor yn yr ysgol. Roedden nhw wedi dod â saith cyw, sef: Toffee, Oreo, Hattie, Dolly, Nugget, Mary a Delyth! Fe wnaethon ni fwynhau gafael ynddyn nhw a’u gwylio’n crwydro o amgylch ein lolfa.”
Valerie Smith
Cydlynydd Gweithgareddau Merton Place, a threfnydd yr ymweliad

Yr ymweliad hwn oedd y diweddaraf mewn cyfres o weithgareddau pontio cenedlaethau rhwng plant grŵp ‘Little Movers’ Rydal Penrhos a phreswylwyr Merton Place. Mae’r ymweliadau yn gyfle i’r plant a’r preswylwyr oedrannus fwynhau sgwrs, gan ddysgu a chael hwyl ar yr un pryd.

Roedd amseru’r cywion yn berffaith! Gyda’r gwanwyn ar ei anterth a’r Pasg ar y gorwel, mae’r cywion yn symbol cryf o fywyd a dechrau newydd.

“Mae croesawu’r cywion i’n hystafell ddosbarth wedi bod yn brofiad arbennig iawn i’n disgyblion 4 oed – ac mae cael cyfle i rannu’r llawenydd gyda phreswylwyr Merton Place wedi bod yn wych. Mae rhannu rhyfeddod, gofal a bywyd newydd yn ffordd hyfryd o bontio’r cenedlaethau."
Louise Devilleforte
Athrawes dosbarth derbyn Rydal Penrhos

Wrth i’r cywion dyfu, byddant yn cael eu symud i erddi Rydal Penrhos, lle byddant yn dod yn rhan o gymuned yr ysgol. Mae disgyblion Rydal Penrhos yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau addysgol, a gall preswylwyr Merton Place edrych ymlaen at ragor o ddatblygiadau cyffrous diolch i’w hymwelwyr ifanc.

I gael rhagor o wybodaeth am fyw yn Merton Place, ewch i: Merton Place – Clwydalyn