Yr wythnos ddiwethaf daeth aelodau ClwydAlyn, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau mewn Digwyddiad Cydnabod Staff blynyddol, a gynhaliwyd yng nghynllun byw’n annibynnol Llys Raddington yn y Fflint.
ClwydAlyn yw un o gymdeithasau tai mwyaf Gogledd Cymru, ac mae’n darparu cartrefi diogel a chynnes, a gofal a chymorth i filoedd o breswylwyr ledled y rhanbarth. Roedd y Digwyddiad Cydnabod Staff yn gyfle i ClwydAlyn dynnu sylw at ymroddiad, gwaith caled a llwyddiant cydweithwyr. Fel rhan o’r digwyddiad blynyddol, roedd aelodau o’r Tîm Arweinyddiaeth Gweithredol, gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredol y sefydliad, Clare Budden, yn falch o’r cyfle i ddiolch i’r aelodau staff hynny sydd wedi cyrraedd cerrig milltir pwysig yn broffesiynol ac yn bersonol.
Dechreuodd y diwrnod drwy gyflwyno cymwysterau a gwobrau, cyn i bawb fwynhau te prynhawn blasus a gafodd ei baratoi gan y tîm yng Nghaffi’r Hen Lys yn y Fflint.
“Diolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed ar eu dysgu a’u datblygiad i gryfhau ein sefydliad.”
Ymhlith y cymwysterau a gafodd eu cydnabod roedd llwyddiannau ym meysydd rheoli adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, diogelwch tân, marchnata, rheoli pobl, gwasanaeth cwsmeriaid, cynhyrchu bwyd, dysgu a datblygu, llywodraethu a nyrsio oedolion.
Cafodd sawl aelod o staff eu cydnabod hefyd am eu gwasanaeth hir, gan gynnwys un aelod o’r tîm sydd wedi gweithio i’r sefydliad am 30 mlynedd, ac 11 aelod staff arall a oedd yn dathlu 20 mlynedd gyda ClwydAlyn.
Ar hyn o bryd mae ClwydAlyn yn recriwtio ar gyfer sawl rôl ar draws y sefydliad. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Gweithiwch i ni