Skip to content

Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn yn dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (11-14 Chwefror) drwy dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol prentisiaethau yn y sefydliad a dangos yr amrywiaeth o brentisiaethau a chyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael yn y sector tai.

Mae ClwydAlyn yn cynnig amrywiaeth eang o brentisiaethau nad ydynt wedi’u cyfyngu i rolau crefftwyr traddodiadol. O swyddi fel Swyddogion Tai, Ymgynghorwyr Cwsmeriaid a Chogyddion i Dechnegwyr TG, mae prentisiaethau heddiw yn gweithio mewn gwahanol adrannau, gan gynnig safbwyntiau newydd, datblygu sgiliau hanfodol ac adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil.

Ar hyn o bryd mae ClwydAlyn, sydd â’i bencadlys yn Llanelwy, yn cefnogi nifer o brentisiaethau, llwybrau, a chyfleoedd datblygu gyrfa ar gyfer unigolion sy’n awyddus i gael profiad ymarferol yn ogystal â’r cyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol.

Creu Llwybrau Gyrfa Newydd

Yn draddodiadol, mae prentisiaethau yn y sector tai wedi bod yn gysylltiedig â rolau crefftwyr, fel plymwyr, trydanwyr a seiri. Fodd bynnag, mae’r diwydiant wedi datblygu i gynnig cyfleoedd sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth lawn o sgiliau sydd eu hangen i ddarparu sefydliad modern, sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Ar hyn o bryd mae Ben Mazzone yn cwblhau prentisiaeth Gradd a hefyd yn dilyn Llwybr TG.

“Rydyn ni’n cynnig prentisiaethau, llwybrau, a chyfleoedd hyfforddiant yn y swydd ar draws ClwydAlyn, ac mae hyn yn cynnwys rolau yn ein hadrannau TG, gwasanaeth i gwsmeriaid, rheoli a chynnal tai.

“Rydyn ni’n angerddol dros feithrin unigolion a darparu cyfleoedd go iawn i dyfu a datblygu.”
Lisa Ramage
Arbenigwr Dysgu a Datblygu
“Roedd y swydd yn ddelfrydol i mi gan fod ClwydAlyn yn cynnig cyfle i astudio yn y brifysgol a gweithio’n llawn amser, gan roi profiad gwaith go iawn i mi wrth i mi astudio.”
Ben Mazzone
“Fy nod ar hyn o bryd yw gwella fy ngwaith a dysgu mwy am fy nghrefft a rhoi’r hyn rwyf wedi’i ddysgu ar waith. Rwyf wedi bod yn aelod o’r tîm am 8 mis ac rwyf yn ddiolchgar iawn i’r bobl sydd wedi fy helpu ar hyd y daith.”
Callum Taylor
Dilyn Llwybr Trydanwr

Pam Dewis Gyrfa ym maes Tai Cymdeithasol?

Mae gweithio ym maes tai cymdeithasol yn rhoi’r cyfle i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl a datblygu sgiliau mewn sector sy’n newid yn gyflym. Mae cynlluniau prentisiaethau, cyfleoedd hyfforddiant yn y swydd a llwybrau yn cynni gylchedd cefnogol, gan alluogi unigolion i ddysgu ac ennill cymwysterau, heb fynd i ddyled fel myfyriwr.

“Mae pob diwrnod yn gyfle i ddysgu rhywbeth newydd, ac rwyf yn gobeithio parhau i ddatblygu yn y swydd hon yn y dyfodol.

“Fe wnes i ddarganfod fy mod wrth fy modd yn gwneud gwaith gweinyddol a datrys problemau. Rwyf yn mwynhau gweithio mewn amgylchedd strwythuredig lle mae popeth yn rhedeg yn llyfn, hyd yn oed ar y dyddiau pan fydd pethau’n mynd o’u le.

“Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod eisiau gyrfa yn y maes hwn, ond rwyf wedi sylweddoli’n fuan bod y swydd hon yn berffaith i mi. Mae goruchwylio’r adran plymio a gwresogi wedi rhoi hwb i’m hyder gan fy helpu i ddatblygu mewn ffyrdd annisgwyl.”
Wiktoria Jasieniewicz

Mae llawer o brentisiaethau’r sefydliad wedi mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y busnes; mae rhai wedi cael swyddi parhaol a symud i rolau uwch. Trwy ganolbwyntio ar brofiad ymarferol a datblygiad wedi’i deilwra, mae ClwydAlyn yn sicrhau bod ei weithlu yn adlewyrchu’r amrywiaeth a’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y dyfodol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Gweithiwch i ni