Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi cyhoeddi y bydd gwaith dymchwel yn dechrau yn fuan ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos. Bydd gwaith ailddatblygu sylweddol ar y safle yn arwain at godi 107 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, yn y pentref gwledig hwn yng Ngwynedd.
Bydd y gwaith ailddatblygu yn dechrau’n fuan iawn ar safle Pentref y Pwyliaid Penrhos ym Mhen Llŷn. Mae’r Gymdeithas Dai Bwylaidd wedi trosglwyddo pob eiddo ar y safle i ClwydAlyn fel rhan o gytundeb uno, gyda’r nod o ailddatblygu ac adfywio’r gymuned.
Cafodd hen ganolfan yr awyrlu (RAF) ei thrawsnewid yn bentref preswyl yn yr 1940au gan y Gymdeithas Dai Bwylaidd er mwyn cynnig cartref i filwyr Pwylaidd a arhosodd yn y Deyrnas Unedig ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Mae treftadaeth gyfoethog a chymuned fywiog ym Mhenrhos, ac er mwyn sicrhau bod y pentref yn parhau i fod yn lle diogel a hapus i breswylwyr am flynyddoedd i ddod, mae angen buddsoddiad sylweddol yn y safle presennol er mwyn cyrraedd y safonau gofynnol.
Yn ystod cam un y prosiect bydd 44 o gartrefi am oes, ac effeithlon o ran ynni, yn cael eu hadeiladu. Bydd y cartrefi newydd hyn yn bodloni ac yn rhagori ar y safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru a Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru.
Gan ddefnyddio dyluniadau arloesol a dulliau adeiladu modern, bydd y cartrefi newydd yn hynod o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar bympiau gwres ffynhonnell aer, paneli trydan solar, batris storio a chyfleusterau gwefru ceir trydan.
Mae cam cyntaf y prosiect yn dechrau diolch i fuddsoddiad o grant Llywodraeth Cymru, yn dilyn trafodaethau rhwng ClwydAlyn, Cyngor Gwynedd a Llywodraeth Cymru.
Cyn dechrau adeiladu’r cartrefi newydd, bydd y gwaith o ddymchwel adeiladau gwag yn dechrau. Mae’r gwaith coed angenrheidiol wedi cael ei amseru er mwyn osgoi amharu ar adar, ystlumod a bywyd gwyllt lleol. Hefyd, fel rhan o’r datblygiad, y bwriad yw plannu coed newydd, a chwblhau gwaith tirlunio ac ecolegol.
Penodwyd contractwr lleol uchel ei barch o Wynedd, Williams Homes (Y Bala), i ailddatblygu Pentref y Pwyliaid Penrhos, ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Ar ôl cwblhau’r cartrefi, bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i breswylwyr sydd eisoes yn byw ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos a phobl sydd ag anghenion gofal a chymorth isel i ganolig yn y gymuned leol.
“Mae costau byw cynyddol yn golygu bod darparu cartrefi ynni-effeithlon, o ansawdd uchel, yn hollbwysig. Trwy wella ansawdd tai a lleihau’r straen sy’n gysylltiedig â fforddiadwyedd rydyn ni’n buddsoddi yn iechyd ein preswylwyr – nawr ac yn y dyfodol.
“Rydyn ni’n angerddol dros gadw’r teimlad cryf o gymuned sy’n bodoli ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos wrth i’r safle symud ymlaen i’r bennod nesaf yn ei hanes.”
“Mae darparu mwy o dai i bobl Gwynedd yn flaenoriaeth i Gyngor Gwynedd ac mae’n amlwg bod dirfawr angen rhagor o dai fforddiadwy ym Mhen Llŷn, lle mae llawer o bobl leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Bydd y datblygiad hwn yn sicrhau bod y bobl hynny sy’n cadw ein cymunedau yn fyw ac yn ffyniannus drwy gydol y flwyddyn yn gallu parhau i fyw yn yr ardal sy’n gartref iddynt.
“Rwy’n edrych ymlaen i weld y cynllun cyffrous hwn yn cael ei wireddu ac i weld y tai yn dod yn gartrefi am oes i deuluoedd ac unigolion lleol.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith o ddatblygu Pentref y Pwyliaid Penrhos, ewch i: Penrhos Polish Village, Gwynedd – Clwydalyn