Skip to content

Mae’r preswylwyr cyntaf wedi dechrau symud i’w cartrefi nweydd yn natblygiad ClwydAlyn, Northern Gateway, ar Lannau Dyfrdwy. Bydd 100 o gartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yn cael eu hadeiladu ar y safle.

ae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi trosglwyddo’r cartrefi i’r preswylwyr cyntaf fel y gallant symud i ddatblygiad newydd Northern Gateway yn Garden City ar Lannau Dyfrdwy. Cafodd y cartrefi eu hadeiladu gan Castle Green Partnerships a’u datblygu gyda Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru. Mae’r eiddo newydd yn cynnwys tai dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos dwy ystafell wely a fflatiau un a dwy ystafell wely.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd a lleihau’r effaith negyddol gall cartrefi sy’n llai effeithiol o ran ynni ei chael ar iechyd a lles, adeiladwyd holl dai Northern Gateway o fframiau pren ynghyd â llawer iawn o ddeunydd ynysu, gyda phympiau gwres ffynhonnell aer i ddarparu gwers a dŵr poeth, a phaneli trydan solar.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i symud yma. Mae mam a finnau yn teimlo y bydd hyn yn newid ein bywydau ac yn ddechrau ar fywyd newydd i’r ddau ohonom.
“Mae ein cartref yn effeithlon o ran ynni, a bydd hyn o gymorth mawr i ni.
“Mae’n anhygoel ein bod yn mynd i gael cartref newydd yma."
Krzysztof Oko
“Pleser mawr yw gallu croesawu pawb sy’n symud i’w cartrefi. Mae gweld preswylwyr yn elwa ar gartrefi modern, cynaliadwy wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Mae’r cartrefi hyn nid yn unig yn gysurus ac yn ddiogel, maen nhw hefyd yn helpu i leihau costau ynni, gan wneud gwahanieth go iawn i fywyd bob dydd. Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol mae hyn yn ei chael ar ein cymuned.”
Penelope Storr
Pennaeth Datblygu a Thwf
“Wrth adeiladu’r cartrefi, rydyn ni’n defnyddio fframiau pren o ffynonellau cynaliadwy, a gynhyrchir gan ddefnyddio dulliau manwl gywir. Mae hyn yn ddull adeiladu cyflym a dibynadwy, sy’n cynhyrchu llai o allyriadau CO2 na dulliau adeiladu carreg traddodiadol. Mae’n golygu ein bod wedi gallu darparu cartrefi newydd fforddiadwy, ynni-effeithiol, o ansawdd uchel, y mae galw mawr amdanyn nhw yn ardal Glannau Dyfrdwy, a hynny yn gyflym iawn. Rydym ar y trywydd iawn i adeiladu a throsglwyddo pob un o’r 100 cartref mewn 15 mis yn unig.”
Eoin O’Donnell
Cyfarwyddwr Partneriaethau Castle Green Partnerships

I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau newydd ClwydAlyn ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru, ewch i: www.clwydalyn.co.uk/developments