Mae Cymdeithas Tai ClwydAlyn wedi cyhoeddi ei phedwerydd adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu sy’n tynnu sylw at y camau a gymerwyd dros y 12 mis diwethaf i gyflawni ei chenhadaeth i drechu tlodi ledled gogledd Cymru. Un o flaenoriaethau ClwydAlyn yw lleihau tlodi tanwydd a llwyddwyd i wireddu hyn yn achos cannoedd o breswylwyr.
Fel rhan o’r gwaith o wneud cartrefi yn fwy cynnes ac yn fwy fforddiadwy i’w cynhesu, mae ClwydAlyn wedi uwchraddio systemau gwresogi, cwblhau gwaith ôl-osod ar 127 o gartrefi a chyflwyno datrysiadau ynni adnewyddadwy newydd gan gynnwys gosod paneli solar ffotofoltaidd (PV) ar eiddo, ynghyd â systemau batri sy’n storio’r ynni i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, mae’r gymdeithas dai wedi gosod 943 o ffenestri newydd a 66 o ddrysau i wella ynysiad. Mae bron i £4 miliwn wedi cael ei fuddsoddi i wneud cartrefi preswylwyr yn gynhesach, yn wyrddach, ac yn fwy ynni-effeithlon.
Mae ClwydAlyn hefyd wedi cynyddu Cronfa’r Preswylwyr o £25k i £100k eleni, gan olygu bod 149 o breswylwyr wedi derbyn cymorth wedi’i deilwra, yn amrywio o dderbyn bwyd mewn argyfwng, cymorth gyda biliau nwy a thrydan, a chynnig yswiriant cynnwys, yn ogystal â rhoi cyngor a chymorth lles i 425 o breswylwyr.
Fel rhan o waith y gymdeithas i fynd i’r afael â’r prinder tai a lleihau digartrefedd, mae ClwydAlyn wedi adeiladu llawer mwy o gartrefi newydd dros y 12 mis diwethaf, ac mae 91% o’r rhain wedi cael sgôr A EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni), sef y lefel uchaf. Mae’r gymdeithas hefyd wedi mynd heibio’r garreg filltir o adeiladu dros 1,000 o gartrefi newydd fel rhan o’i rhaglen ddatblygu bresennol.
Wrth i ni wynebu difrifoldeb cynyddol yr argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd, byddwn yn rhoi hyd yn oed mwy o bwyslais ar y blaenoriaethau hyn yn 2025. Mewn rhannu o ogledd Cymru, mae’r disgwyliad oes saith mlynedd yn llai na’r cyfartaledd rhanbarthol, ac mae’r disgwyliad oes iach 12 mlynedd yn llai. Dydy hynny ddim yn deg, ac er na allwn ni ddatrys pethau ar ein pen ein hun, rydyn ni’n credu bod trechu tlodi ac amddiffyn yr amgylchedd yn mynd law yn llaw.
O leihau allyriadau carbon a gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi er mwyn eu gwneud yn fwy fforddiadwy i’w cynhesu a gwella mynediad at fwyd fforddiadwy, iach, rydyn ni’n benderfynol o greu cymdeithas decach a gwell dyfodol i’n cymunedau.
Gallwch ddarllen am ymdrechion ClwydAlyn yn yr adroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodarethu ar gyfer 2023/24 yma: https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2024/10/ClwydAlyn_ACLl_23-24-comp-.pdf.