Dyddiad cwblhau arfaethedig: Gwanwyn 2026
Mae Cegidfa yn ddatblygiad o 28 o gartrefi ynni-effeithlon. Yr adeiladwyr yw Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, yn amrywio o fflatiau i dai pâr.
Mae’r holl gartrefi yn cael eu hadeiladu fel cartrefi am oes ac wedi’u dylunio fel bod modd eu haddasu’n hawdd i fodloni anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hwy.
Mae’r cartrefi hyn yn bodloni ac yn mynd y tu hwnt i’r safonau rheoleiddio presennol: Safon Ansawdd Tai Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a Safonau Mannau a Chartrefi Prydferth Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw mynd i’r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith gall cartrefi sy’n llai effeithlon o ran ynni ei chael ar iechyd a lles pobl. Mae’r cartrefi newydd hyn yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, ac maent yn eithriadol o effeithlon o ran ynni ac yn elwa ar y nodweddion canlynol:
- Pympiau gwres ffynhonnell aer
- Paneli solar trydan
- Cartrefi wedi’u lleoli i wneud y mwyaf o wres yr haul a golau naturiol
- Cyfleusterau gwefru ceir trydan
- ‘Dulliau Adeiladu Modern’, sy’n defnyddio cynifer o ddefnyddiau naturiol a chynaliadwy â phosibl
- Cyrchu defnyddiau gan wneuthurwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl-troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi hyn wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i helpu’r amgylchedd, yn arbed ynni gwerthfawr, a gallant arbed arian yn y tymor hir hefyd.
Mae’r safle yn cynnwys: 28 o gartrefi
- 4 x 1 Ystafell Wely
- 11 x 2 Ystafell Wely
- 11 x 3 Ystafell Wely
- 2 x 4 Ystafell Wely