Skip to content

Mae disgyblion Rydal Penrhos ac Ysgol Eirias yn ymweld yn rheolaidd â Merton Place, cartref nyrsio Tai ClwydAlyn ym Mae Colwyn, gan ddod â llawenydd a chwmnïaeth i’r preswylwyr. Mae’r bartneriaeth hon wedi datblygu dros sawl blwyddyn ac yn cynnig digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd sy’n cryfhau’r cysylltiad rhwng Merton Place a’r ysgolion hyn, ac yn llonni bywydau’r preswylwyr drwy gydol y flwyddyn.

Yn ddiweddar, cafodd disgyblion dosbarth derbyn Rydal Penrhos gyfle i fwynhau diwrnod hwyliog a chofiadwy ar y cyd â Little Movers North Wales a ClwydAlyn. Roedd y cwmni dawns, cerdd a symud wedi mynd ati i greu dathliad difyr yn ymwneud â thân gwyllt, a bu’r plant yn mwynhau dawnsio gyda rhubanau lliwgar. Roedd cyfle i’r disgyblion ganu caneuon hefyd a chael hwyl yn clecian swigod gyda’r preswylwyr, gan feithrin cysylltiad hyfryd rhwng y cenedlaethau. Uchafbwynt y digwyddiad oedd y ddawns hyfryd a berfformiwyd gan y disgyblion, ac a gafodd ei chreu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Mae Cara Paton, perchennog Little Movers North Wales, yn dod â’r gweithdai yn fyw gyda’i phropiau ei hun, cerddoriaeth, a gweithgareddau creadigol.

Roedd yr ymweliad hwn yn rhan o bartneriaeth sydd wedi hen sefydlu rhwng Merton Place ac ysgolion lleol: mae disgyblion cyn-oedran ysgol Rydal Penrhos yn ymweld â’r cartref bob mis i chwarae gyda’r preswylwyr, ac mae disgyblion hŷn yn ymuno fel rhan o’u Gwobr Dug Caeredin. Bydd yr ysgol yn cloi’r rhaglen eleni gyda digwyddiad Nadoligaidd, ac yn perfformio cyngerdd corawl gan greu hyd yn oed mwy o atgofion melys.

Mae Ysgol Eirias hefyd yn cymryd rhan yn y gweithgareddau yn Merton Place. Bob dydd Iau yn ystod y tymor, mae disgyblion Blwyddyn 13 Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ymweld â’r preswylwyr ac yn cael profiad ymarferol o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhaglen lwyddiannus hon wedi cael ei chynnal ers dwy flynedd bellach, ac mae’n ffefryn ymhlith y preswylwyr a’r myfyrwyr sy’n gwerthfawrogi’r amser maent yn ei dreulio gyda’i gilydd.

Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at yr achlysuron hyn, sy’n creu pont â’r gymuned ehangach. Mae pob grŵp oedran yn dod â’i nodweddion unigryw:  y plant ifanc â’u hwyl diniwed, a’r myfyrwyr hŷn sy’n sôn am eu breuddwydion a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Mae’r preswylwyr yn mwynhau gwrando ar safbwyntiau’r myfyrwyr am fywyd modern, ac mae’r disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd gwrando a meithrin perthynas ag aelodau o’r genhedlaeth hŷn. Gyda’i gilydd, maent yn darganfod nad yw gwahaniaethau oedran yn bwysig wrth rannu profiadau.

Mae ymweliadau disgyblion Rydal Penrhos ac Ysgol Eirias â Merton Place yn dod â chynhesrwydd a phleser mawr i’n preswylwyr. Mae’r plant yn goleuo’r ystafell, ac mae’r cysylltiadau sy’n cael eu creu yn golygu cymaint i bawb. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r ysgolion am eu hymrwymiad parhaus i ddod â’r gymuned gyda’i gilydd mewn ffordd mor ystyrlon.
Christina Hale
Rheolwr Cartref Gofal Merton Place
Mae ymweliadau disgyblion Rydal Penrhos ac Ysgol Eirias â Merton Place yn dod â chynhesrwydd a phleser mawr i’n preswylwyr. Mae’r plant yn goleuo’r ystafell, ac mae’r cysylltiadau sy’n cael eu creu yn golygu cymaint i bawb. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r ysgolion am eu hymrwymiad parhaus i ddod â’r gymuned gyda’i gilydd mewn ffordd mor ystyrlon.
Tom Hutchinson
Pennaeth Rydal Penrhos

Dywedodd Claire Hughes-Roberts, Athrawes Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ysgol Eirias:“Mae’r ymweliadau hyn â Merton Place yn cael effaith ddofn ar ein myfyrwyr Blwyddyn 13. Y tu hwnt i’w hastudiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, maen nhw’n ennill profiad ymarferol gwerthfawr iawn sy’n meithrin empathi a dealltwriaeth, ac yn gwella eu sgiliau cyfathrebu. Bydd y perthnasoedd sy’n cael eu creu yma yn gwneud argraff arnyn nhw am byth, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o fenter gymunedol mor arwyddocaol.”

Mae’r partneriaethau hyn rhwng Merton Place ac ysgolion lleol yn creu teimlad o gymuned, gan ddod â phobl o bob oedran ynghyd i rannu straeon a phrofiadau. Mae’r preswylwyr yn mwynhau’r cyfle i gysylltu â phobl ifanc, ac mae’r myfyrwyr yn dysgu gwersi bywyd gwerthfawr, gan greu cysylltiadau am oes rhwng y cenedlaethau.