Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd Garw ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul wrth i Storm Bert gyrraedd y DU. Bydd y system dywydd yn dod â glaw trwm ac eira, yn ogystal â gwyntoedd cryfion i rannau mawr o’r wlad: Tywydd Cymru – Y Swyddfa Dywydd.
Mae ein holl wasanaethau ar agor ac yn gweithredu mor effeithiol â phosibl, er gwaethaf yr amodau tywydd anodd. Dros y penwythnos mae’n bosibl y byddwn yn gorfod ymateb i nifer cynyddol o achosion brys, yn enwedig toeau a landeri, felly gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni roi sylw i’r gwaith hyn.
Mae ein timau cynnal yn cymryd gofal ychwanegol wrth yrru rhwng apwyntiadau, ac yn dibynnu ar nifer yr achosion brys y byddwn yn ymateb iddynt, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i’ch cyrraedd.
Bydd Storm Bert yn symud yn eithaf araf ac ni fydd yn clirio tan ddydd Llun. Bydd y tywydd ar ddechrau’r wythnos yn dal i fod yn ansefydlog, gyda rhagolygon am wyntoedd cryf a chawodydd.
Ar gyfer achosion brys, ffoniwch ni ar 0800 183 5757. Ar gyfer unrhyw geisiadau neu waith trwsio nad ydynt yn achosion brys, mewngofnodwch i FyClwydAlyn neu e-bostiwch help@clwydalyn.co.uk.