Skip to content

Mae ClwydAlyn Housing, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, wedi’u hanrhydeddu gyda’r Wobr am fod y Mudiad Gorau er Iechyd a Diogelwch a Lles yng Ngwobrau Arfer Gorau Working Families 2024, gan gydnabod eu hymrwymiad eithriadol tuag at iechyd eu gweithwyr a mentrau lles arloesol.

Working Families ydy elusen genedlaethol y DU ar gyfer rhieni a gofalwyr sy’n gweithio, ac mae eu gwobrau blynyddol yn clodfori cyflogwyr blaenllaw a hyrwyddwyr sy’n ystyriol o deuluoedd sy’n gosod safonau newydd ar gyfer gweithleoedd sy’n gweithredu er lles y gweithwyr.

Llwyddodd Cymdeithas Dai ClwydAlyn i gipio’r wobr am eu hymrwymiad tuag at lesiant eu gweithwyr, a gadarnhawyd gan eu Marc Ansawdd Llesiant lefel Aur diweddar gan Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Cymru. Gan eu bod nhw ond yn un o bum mudiad yng Nghymru gyda’r logo Marc Ansawdd Aur, ynghyd ag yn meddu ar 145 aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, mae’r gymdeithas dai a’u Tîm Iechyd a Llesiant yn amlwg yn angerddol dros ofalu am hapusrwydd a boddhad eu gweithwyr.

Rydym wrth ein bodd ein bod ni wedi llwyddo i ennill y Wobr am fod y Mudiad Iechyd Meddwl a Lles gorau sydd wedi’i noddi gan Gronfa Byw’n Annibynnol yr Alban. Mae’n wych gweld gwaith diwyd y Tîm Iechyd a Lles yn cael ei gydnabod drwy’r wobr fawreddog hon. Mae’r tîm yn ystyriol dros ben o’n gweithwyr ac maen nhw wedi meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol dros ben, lle caiff pawb eu hannog i fyw bywydau iach a gwneud dewisiadau sy’n ategu eu lles.
Edward Hughes
Cyfarwyddwr Gweithredol Gofal a Chymorth yng Nghymdeithas Dai ClwydAlyn
Llongyfarchiadau i Gymdeithas Dai ClwydAlyn ac i holl enillwyr Gwobrau Arfer Gorau eleni. Unwaith eto, rydym wedi ein syfrdanu gan safon ein cystadleuwyr yn y rownd derfynol. Mae pob un ohonyn nhw’n dangos bod modd i fudiad feithrin hyblygrwydd a gweithleoedd sy’n addas i deuluoedd, waeth beth yw eu maint neu eu sector. O fusnesau bach a chymdeithasau elusennol i fanciau rhyngwladol a’r lluoedd arfog, mae ein henillwyr yn arddangos arloesedd, ymarferoldeb a thrugaredd.

Hoffwn estyn llongyfarchiadau i bawb wnaeth gyrraedd y rownd derfynol am eu hymrwymiad i fod yn gyflogwyr sy’n barod i weithredu’n wahanol a mynd y tu hwnt i’r galw ar gyfer eu pobl a’u busnes. Mae eu polisïau arbennig sy’n addas i deuluoedd ac arferion cefnogol yn help i drawsnewid y byd gwaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol fel bod modd i bawb, o deuluoedd i fusnesau, elwa o’r buddion.
Jane van Zyl
Prif Weithredwr Working Families