Skip to content

Mae’r gwaith wedi dechrau ar safle datblygiad preswyl newydd ClwydAlyn, y gymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, ym Bodelwyddan, Sir Ddinbych. Gwerth y prosiect cyfan yw £8.25m a bydd y cam cyntaf hwn yn darparu 33 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, ar ffurf 17 tŷ ac 16 fflat.

Mae safle’r 33 cartref ar Ffordd Rhuddlan yn rhan o gynllun mwy ar gyfer 108 o gartrefi newydd sydd wedi’i ddynodi ar gyfer datblygiad preswyl yng Nghynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor. Mewn partneriaeth gyda K & C Construction, bydd y cartrefi yn cael eu hadeiladu i safonau uchel ac yn gartrefi am oes, gan olygu y bydd modd eu haddasu’n hawdd i ateb anghenion newidiol y preswylwyr, gan eu helpu i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.

“Rydym yn falch iawn o weld y gwaith adeiladu yn dechrau ar y safle; bydd y cartrefi gorffenedig yn cyd-fynd â’n cenhadaeth hirdymor i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwella iechyd a lles ein preswylwyr.

“Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol, ynghyd â deunyddiau naturiol a chynaliadwy o ffynonellau mor lleol â phosibl, ac rydym yn disgwyl y bydd preswylwyr yn symud i mewn i’r cartrefi yn yr hydref 2025".
Penny Storr
Pennaeth Datblygiad a Thwf

Dywedodd Stuart Askey, Rheolwr Datblygu Busnes K & C Construction:

“Rydym yn hynod o falch o gydweithio gyda ClwydAlyn i adeiladu’r prosiect hwn, a fydd nid yn unig yn cyfrannu tai y mae gwir eu hangen yn ardal Bodelwyddan ond a fydd hefyd yn creu cymuned newydd, lewyrchus ac yn dod â budd i’r economi leol.”

Bu prif randdeiliaid K & C Construction a ClwydAlyn yn ymweld â’r safle i nodi bod y gwaith yn dechrau.

I gael rhagor o wybodaeth am y datblygiad, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk