Yn cael ei ystyried yn un o’r datblygiadau mwyaf blaengar eto, mae Glasdir yn ddatblygiad sy’n cynnwys 63 o gartrefi effeithlon o ran ynni. Fe’u hadeiladwyd gan Williams Homes ar ran ClwydAlyn ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru; gydag arian yn rhannol trwy’r Rhaglen Tai Arloesol.
Mae’r gymysgedd o gartrefi yn cynnwys cartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely, gan amrywio o fyngalos, fflatiau, tai pâr a thai unigol yn ogystal â byngalos wedi eu haddasu. Adeiladir ein holl gartrefi fel cartrefi am oes ac maent wedi eu dylunio i fod yn hawdd eu haddasu yn ôl anghenion y preswylwyr wrth iddynt newid, gan eu helpu i fyw’n annibynnol yn hwy.
Mae’r cartrefi newydd yn bodloni ac yn mynd tu hwnt i’r safonau rheoleiddiol presennol: Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru, Gofynion Ansawdd Datblygu Llywodraeth Cymru a safonau Tai a Lleoedd Hardd Llywodraeth Cymru.
Nod ClwydAlyn yw taclo tlodi tanwydd a helpu i leihau’r effaith y gall cartrefi llai effeithlon o ran ynni ei gael ar iechyd a lles pobl. Wedi eu hadeiladu gan ymestyn ffiniau a defnyddio technolegau mwy gwyrdd a dyluniadau blaengar, mae’r cartrefi newydd yma’n effeithlon iawn o ran ynni ac yn manteisio ar:
• Pympiau gwres ffynhonnell aer
• Paneli trydan solar
• Batris storio trydan solar
• Cartrefi wedi eu gosod i wneud y mwyaf o’r haul a golau naturiol
• Cyfleusterau gwefru ceir trydan
• ‘Dulliau Adeiladu Modern’, gan ddefnyddio cymaint o ddeunyddiau naturiol a chynaliadwy ag sy’n bosibl
• Canfod deunyddiau gan weithgynhyrchwyr a chyflenwyr lleol, gan gadw’r ôl troed carbon yn isel.
Gall y cartrefi yma wneud gwahaniaeth mawr. Byddant yn helpu preswylwyr i gefnogi’r amgylchedd; arbed ynni gwerthfawr ac fe allant arbed arian yn y pen draw.
Mae 63 o gartrefi ar y safle
- 2 x Fyngalo 2 Ystafell Wely wedi eu Haddasu
- 8 x Fflat 1 Ystafell Wely
- 4 x Byngalo 2 Ystafell Wely
- 4 x Tŷ Unigol 3 Ystafell Wely
- 20 x Tŷ Pâr 2 Ystafell Wely
- 21 x Tŷ Pâr 3 Ystafell Wely
- 4 x Tŷ Pâr 4 Ystafell Wely
Tir yn Glasdir
![Resdients moving into their new property, Glasdir, Ruthin](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-114.jpg)
![Glasdir homes](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-67.jpg)
![glasdir properties](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-102-2.jpg)
![resident of glasdir housing development outside home in wheelchair](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-128.jpg)
Y newyddion diweddaraf a datblygiadau ar gyfer Glasdir:
![Glasdir semi-detached property in Ruthin](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-104-2.jpg)
![Resdients moving into their new property, Glasdir, Ruthin](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-114.jpg)
Fideos
![Glasdir homes](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/06/4-7-22-Glasdir-67.jpg)