Skip to content

Mae’r dyluniadau cyntaf o du mewn datblygiad i drawsnewid y cyn swyddfeydd yn Neuadd Maldwyn yn y Trallwng yn gynllun byw’n annibynnol i bobl hŷn wedi cael eu datgelu.

Mae’r cynllun, sy’n ddibynnol ar ganiatâd cynllunio, yn cael ei ddatblygu gan y gymdeithas dai ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn cynnig hwb i gyflogaeth yn lleol, gan greu hyd at 20 o swyddi.

Mae’r 66 o fflatiau un a dwy ystafell wely wedi eu dylunio i bobl leol neu bobl â chysylltiadau clos â Phowys sy’n 60 oed neu hŷn gydag angen gofal neu gefnogaeth wedi ei asesu.

Y nod yw darparu llety yn y dref sy’n rhoi eu ‘drws ffrynt eu hunain’ i denantiaid ond gyda’r sicrwydd o gefnogaeth ar y safle 24 awr y dydd petai arnynt ei hangen.

Mae nodweddion eraill y cynllun yn cynnwys cyfleusterau cymunedol ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau, bwyty, parcio ar y safle ac ardaloedd wedi eu tirlunio.

“Mae’r cynllun hwn wedi ei ddatblygu a’i ddylunio i fodloni anghenion pobl hŷn yn lleol, gan ymdrin â’r angen am gartrefi o safon uchel, fforddiadwy ym Mhowys. Yn ogystal â chynnig fflatiau modern, cyfforddus, bydd hefyd yn creu gofod cymunedol a gofod tu allan bywiog i breswylwyr eu mwynhau ac yn hanfodol, bydd y cynllun yn cynnig hwb i gyflogaeth yn lleol fydd yn cael croeso mawr.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn