Skip to content

Mae ClwydAlyn wedi cadarnhau penodiad Cris McGuinness fel Cadeirydd newydd y Bwrdd wrth groesawu pedwar aelod newydd arall.

Cymerodd Cris y swydd yn swyddogol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y landlord cymdeithasol, gan gymryd sedd Stephen Porter a fu yn y swydd am saith mlynedd ac roedd yn aelod o’r bwrdd am wyth.

Mae Cris ar hyn o bryd yn Brif Swyddog Ariannol yn Riverside ac yn dwyn gyda hi flynyddoedd lawer o brofiad ar lefel uchel ym maes tai. Yn Gyfrifydd Siartredig a hyfforddwyd gan KPMG mae wedi dal swyddi blaenorol yn y Guinness Partnership, North Herefordshire Homes ac Adactus Housing Group.

Croesawodd ClwydAlyn, sydd â mwy na 6300 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru, Sally Thomas, Bethan Smith, Tania Silva a Brian Strefford hefyd i’r Bwrdd. Byddant i gyd yn ymuno â phwyllgorau arbenigol Pobl, Sicrwydd ac Eiddo.

Dywedodd Cris McGuinness: “Mae’n fraint camu i swydd Cadeirydd ClwydAlyn, yn neilltuol gyda’i bwyslais gweithredol ar drechu tlodi. Mae taclo tlodi yn ogystal yn ymwreiddio amrywiaeth a chynhwysiant yn faterion sy’n agos at fy nghalon. Hoffwn ddiolch i’r tîm am groeso mor gynnes ac rwyf yn edrych ymlaen at gefnogi ClwydAlyn a’i gymunedau.”

Dywedodd Clare Budden Prif Swyddog Gweithredol ClwydAlyn: “Mae Cris yn ymgorffori ein gwerthoedd yn ClwydAlyn yn llwyr, gan rannu ein huchelgais i’n preswylwyr, staff a phobl Gogledd Cymru. Mae hi a’n haelodau newydd talentog o’r Bwrdd eisoes wedi dechrau arni ac rwy’n gwybod bod gennym dîm cryf yn ei le i’n harwain ni i’r bennod nesaf.”