Mae’n anodd i mi gredu pan fyddaf yn dweud fy mod wedi gweithio – ac wedi ymrwymo i – dai cymdeithasol ers mwy na 50 mlynedd. Cyn ymuno â ClwydAlyn roedd gennyf nifer o swyddi mewn dwy Gymdeithas Dai fawr, gan gynnwys y fraint o fod yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai lwyddiannus am ryw 20 mlynedd, oedd yn cael ei chydnabod fel un oedd yn arwain y blaen yn y sector.
Treuliais yr wyth mlynedd diwethaf ar Fwrdd ClwydAlyn ac mae wedi bod yn fraint fawr dal swydd Cadeirydd am y saith mlynedd diwethaf.
Rwyf wedi gweithio ochr yn ochr â phobl sydd yn fy ysbrydoli bob dydd, pobl sy’n poeni a phobl sydd â thân yn eu boliau i wneud pethau’n well i eraill. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr ysbryd hwn yn ClwydAlyn yn parhau yn gadarn, beth bynnag sydd o’n blaenau.
Wrth i mi ildio fy swydd, mae’n teimlo ei fod yn gyfle da i ystyried popeth sydd wedi digwydd yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf.
Mae gan y sefydliad strwythur gwahanol a llawer symlach yn gyfreithiol yn awr na phan wnes i ymuno. Rwy’n teimlo balchder o wybod bod ClwydAlyn yn awr yn haws i bawb – tenantiaid, staff, partneriaid, hyd yn oed y Bwrdd – ffynnu ynddo a’i ddeall.
Rydym wedi bod ar daith ddiwylliannol hefyd ac mae wedi bod yn bleser gwylio cydweithwyr yn mynd ar daith â’u holl nerth, gan arwain at le i weithio sydd yn fwy ystwyth, hyblyg a chynhwysol.
Mae ClwydAlyn yn gwirioneddol fyw ei werthoedd o ymddiriedaeth, caredigrwydd a gobaith. Rwyf wedi eu gweld wrth eu gwaith o ddydd i ddydd, yn y modd yr ydym yn darparu gwasanaethau a’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n pobl.
Rwyf hefyd yn falch o adael gan wybod bod tîm arwain a Phrif Swyddog sy’n esiampl i bawb yn eu lle i yrru’r genhadaeth a’r weledigaeth ymlaen yn ClwydAlyn.
Mae gan Clare Budden a’r tîm y sgiliau a’r gwerthoedd nid yn unig i redeg sefydliad effeithlon ond i fod yn ddewr am wneud y pethau iawn.
Wrth gwrs, nid yw fy amser yma wedi bod heb gyfnodau anodd. Roedd y pandemig COVID-19 yn un cyfnod o’r fath; yn neilltuol gyda chymaint o wasanaethau’n gofalu am bobl fregus iawn. Yn fwy diweddar, mae bod yn dyst i fwy o bobl yn cael eu gwthio i dlodi a’r chwalfa y mae’n arwain ati yn eu bywydau wedi peri gofid.
Yn 2020, fe wnaethom fabwysiadu Gyda’n gilydd i drechu tlodi fel cenhadaeth, ac fe wyddem bod raid i ni drosi’r geiriau yma yn weithredu.
Nid yn unig rydym wedi cyflwyno polisi o beidio troi allan i ddigartrefedd, ond rydym wedi gweithio’n anhygoel o galed i’w weithredu a’i gynnal, gan geisio, yn lle hynny, ymdrin â’r problemau mewn ffyrdd adeiladol. Rwy’n falch o ddweud nad ydym wedi troi unrhyw un allan yn y 3 blynedd ddiwethaf.
Rydym wedi creu partneriaeth â’r fenter Bwydo’n Dda ac rydym wedi darparu miloedd lawer o brydau maethlon i aelwydydd mewn angen ar draws Gogledd Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae gennym bartneriaeth â Cymru Gynnes i frwydro yn erbyn tlodi tanwydd ac rydym wedi galluogi cannoedd o aelwydydd i leihau eu defnydd o danwydd. Rydym wedi buddsoddi miliynau mewn effeithlonrwydd gwres yng nghartrefi pobl.
Rydym yn adeiladu mwy o gartrefi nag erioed o’r blaen gyda dros 500 o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, a 95% ohonynt am rent cymdeithasol. Mae pob cartref yr ydym yn ei adeiladu i safon EPC A a ddim ar nwy. Yn ychwanegol, rydym wedi adeiladu dros 200 o gartrefi gwirioneddol flaengar sy’n gosod y safonau ar gyfer y dyfodol ar draws y Deyrnas Unedig.
Y ffordd orau i ni i gyd ymladd yn erbyn tlodi yw darparu cartrefi o safon uchel, effeithlon o ran ynni sy’n wirioneddol fforddiadwy. Er mwyn galluogi ClwydAlyn i wneud y mwyaf o’i raglen adeiladu newydd ni oedd y Gymdeithas Dai gyntaf yng Nghymru i ail gyllido gan ddefnyddio bond cyhoeddus yn ôl yn 2017. Rydym wedi cynnal ein cyfradd gredyd byth ers hynny gan ganiatáu i ni i gyflawni rhaglen fawr mewn marchnad sy’n newid yn barhaus tra mae eraill yn gorfod torri yn ôl.
Credaf bod yr enghreifftiau yma yn dangos yr hyn yr wyf yn ei alw yn ‘edau aur’ sy’n cysylltu’r Bwrdd, ein cenhadaeth a’n gwerthoedd sefydliadol a’r effaith gwirioneddol ar fywydau.
Y cyfan sy’n weddill i mi ei wneud yw trosglwyddo’n falch i Cris McGuinness, sydd â chefndir cryf ym maes tai ac angerdd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Dymunaf y gorau oll iddi yn yr hyn yr wyf yn siŵr fydd yn swydd fydd yn rhoi boddhad, yn heriol ac effeithiol fel Cadeirydd newydd ClwydAlyn.
Gan siarad drosof fy hun, yn ClwydAlyn mae pobl wybodus, dalentog ac ymroddedig iawn wedi bod yn unrhyw ystafell yr oeddwn ynddi! Mae wedi bod yn bleser helpu i greu lle iddyn nhw ffynnu a chyflawni pethau gwych dros gymunedau ar draws Gogledd Cymru.
Diolch yn fawr
Stephen Porter
Dywedodd Clare Budden Prif Swyddog Gweithredol ClwydAlyn: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Steve yn Gadeirydd dros y 5 mlynedd diwethaf. Dyma fy swydd gyntaf fel Prif Weithredwr ac mae cyfarwyddyd, profiad a chyngor cadarn Steve wedi bod mor werthfawr i mi, wrth ymdrin â’r heriau yr ydym wedi eu hwynebu; ac wrth gynllunio a chyflawni ein cenhadaeth a’n strategaeth dwf. Mae ei gred yn y sector Cymdeithasau Tai a’r rhan bwysig yr ydym yn ei chwarae wrth alluogi pobl i fyw bywydau da yn un o’r gwerthoedd yr ydym ni ein dau yn eu rhannu a bydd yn parhau i fod yn yrrwr allweddol i ClwydAlyn.”