Skip to content

Mae’r datblygwyr sy’n adeiladu cartrefi newydd ar safle Glasdir yn Rhuthun, yn rhoi yn ôl i’r gymuned leol trwy noddi dillad pêl-droed i bobl ifanc sy’n chwarae i Dîm Ieuenctid Rhuthun.

Mae Williams Homes, y contractwr sy’n adeiladu 63 o dai fforddiadwy newydd ar safle ar ran cymdeithas tai ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru, yn rhoi’r nawdd fel rhan o ymrwymiad y ddau sefydliad i sicrhau bod y datblygiad yn creu cymaint o fudd ag sy’n bosibl i’r gymuned leol.

Dywedodd Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn: “Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’n cynlluniau yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddynt mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, o greu gwaith lleol i gefnogi mentrau lleol. Rydym yn falch iawn bod Williams Homes wedi rhoi nawdd i dîm pêl-droed ieuenctid Rhuthun fel rhan o’n gwaith yn yr ardal, ac rydym yn dymuno pob lwc i’r tîm yn y tymor sydd i ddod.”

“Rydym yn falch iawn ac yn ddiolchgar dros ben i Williams Homes (Bala) Ltd am fod yn ddigon caredig i noddi’r dillad smart i’r tîm dan 16 ar gyfer y tymor nesaf, mae’r bechgyn yn falch iawn o’r dillad ac yn edrych ymlaen yn fawr at eu gêm gyntaf yn eu gwisgo! Mae’n syniad gwych ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y bechgyn, eu rhieni a’r tîm cyfan.”
Wynne Davies
Cadeirydd Tîm Ieuenctid Rhuthun

Mae cynllun Glasdir yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 trwy fuddsoddiad o £250 miliwn, gan ddod â chyfanswm y tai y mae’r gymdeithas dai yn berchen arnynt ac yn eu rheoli i dros 7,500.