Skip to content

Mae cynllun tai sydd newydd ei ddatblygu ar Ynys Môn wedi chwarae rhan allweddol wrth greu man i ddarparu bwyd sy’n ymdrin â thlodi bwyd a gwastraff bwyd.

Mae’r datblygwyr sy’n adeiladu’r cartrefi newydd ar safle Hen Ysgol y Bont, Llangefni, yn rhoi’n ôl i’r gymuned leol trwy gefnogi sefydlu Bwyd Da Môn.

Williams Homes, y contractwyr sy’n adeiladu 52 o gartrefi fforddiadwy ar y safle ar ran y gymdeithas dai ClwydAlyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru, sydd wedi adeiladu a gosod y cownter yn y ganolfan.

“Rhan bwysig o ymrwymiad ClwydAlyn i adeiladu tai fforddiadwy o safon uchel yw sicrhau bod yr holl bartneriaid sy’n rhan o’r cynllun yn ymrwymo i roi yn ôl i’r cymunedau lleol yr ydym yn gweithio ynddyn nhw mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, o greu swyddi lleol i gefnogi mentrau lleol.

“Rydym yn sylweddoli bod y cyfnod yn anodd i lawer o bobl, yn arbennig ar ôl y cynnydd diweddar mewn costau byw ac mae’n bwysig i ni wneud popeth allwn ni i sicrhau bod help a chefnogaeth ar gael i’r rhai sydd ei angen.

“Rydym yn falch iawn bod Williams Homes wedi cefnogi’r cynllun lleol hwn yn Ynys Môn fel rhan o’n gwaith yn yr ardal, ac rydym yn dymuno’n dda iawn i’r cynllun wrth daclo tlodi bwyd.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Mae cynllun Bwyd Da Môn sy’n gynllun cydweithredol rhwng amrywiol sefydliadau sy’n cynnwys, Cymdeithas Tai ClwydAlyn, Williams Homes, Cyngor Sir Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, Grŵp Llandrillo Menai, Banc Bwyd Ynys Môn, sefydliadau sector preifat ac amrywiaeth o gyrff o’r sector gwirfoddol, yn rhoi mynediad i bobl at fwyd rhad o safon uchel a fyddai’n cael ei wastraffu fel arall.

Dywedodd Owain Williams o Williams Homes:

“Roedd Williams Homes yn barod iawn i gefnogi datblygu Bwyd Da Môn, prosiect newydd cyffrous sy’n defnyddio bwyd a fyddai fel arall yn mynd i safle tirlenwi i helpu i leddfu tlodi bwyd ar Ynys Môn. Roedd ein Rheolwr Tir a Chaffael yn rhan o’r prosiect o’r dechrau ac wrth ei ddatblygu, ac rydym yn hapus iawn ein bod yn ei chefnogi yn ystod y cyfnod datblygu ac i lunio a gosod cownter i’r diben i’r safle newydd.”

Bydd cynllun Hen Ysgol y Bont yn cynnig cartrefi effeithlon o ran ynni a chyfeillgar o ran carbon, wedi eu hadeiladu gyda deunyddiau sy’n cyflawni’n dda sydd wedi eu cael yn lleol, fel pren o Gymru wedi ei weithgynhyrchu yn y Bala, yn ogystal â gosod pympiau ffynhonnell aer yn hytrach na systemau gwresogi a dŵr poeth traddodiadol.

Mae’r datblygiad yn rhan o raglen ClwydAlyn i ddarparu 1,500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025, trwy fuddsoddi £250 miliwn, gan ddod â chyfanswm y tai sydd ym meddiant y Gymdeithas Dai ac y mae’n eu rheoli i dros 7,500.

Am ragor o wybodaeth am Bwyd Da Môn, ewch i https://www.bwyd‐da‐mon.org.uk