Skip to content

Ddoe, cymeradwywyd caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Conwy ar gyfer datblygu tai fforddiadwy yn Llandudno.

Bydd y cais a gyflwynwyd gan ClwydAlyn yn caniatáu i 77 o gartrefi un, dwy, tair a phedair ystafell wely i gael eu hadeiladu ar Builder Street, gan ddarparu cymysgedd o gartrefi i deuluoedd ac i’r rhai dros 55 oed.

“Rwy’n falch iawn bod ein cais cynllunio ar gyfer datblygu Builder Street, Llandudno wedi ei gymeradwyo ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ar y safle.

“Bydd y datblygiad yn darparu 100% o dai fforddiadwy i bobl leol, mewn ardal lle mae diffyg wedi ei ddynodi yn annibynnol. Mae ein contractwr, sy’n bartner i ni, Lane End Construction wedi clustnodi darn o dir a fydd yn cael ei farchnata ar gyfer datblygiad masnachol, yn unol â’r cyfyngiadau masnachol sydd ar y tir ar hyn o bryd.

“Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio ein cynlluniau yn ôl ym mis Mawrth y llynedd, ac mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio â galw ein cais cynllunio i mewn. Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y golau gwyrdd i symud ymlaen ar ddatblygiad a fydd yn dwyn dros £12.7 miliwn o fuddsoddiad lleol i mewn, ac yn cefnogi dros 100 o gyfleoedd swyddi yn yr ardal. Mae’r gwaith yn debygol o ddechrau ar y safle ar ddiwedd Mawrth 2022.”
Craig Sparrow
Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn

Ychwanegodd Craig Sparrow:

“Mae hyn yn gam mawr ymlaen i ni wrth i ni barhau ein rhaglen o ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai dan ein rheolaeth i dros 7,500.”