Skip to content

Cychwynnodd y gwaith cyn adeiladu yn ddiweddar ar Stryd Edward Henry yn y Rhyl, fel rhan o raglen adfywio uchelgeisiol.

Bydd y prosiect £3.89m, sy’n bartneriaeth rhwng Cymdeithas Tai ClwydAlyn, Cyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a NWPS Construction, yn gweld 33 o’r fflatiau sy’n bodoli’n cael eu dymchwel ac 13 o gartrefi fforddiadwy tair ystafell wely i deuluoedd yn cael eu hadeiladu yn eu lle.

Mae’r cartrefi newydd yn rhan o’r Cynllun Rhaglen Buddsoddiad Adfywio wedi’i Dargedu ar gyfer ailddatblygu pen gorllewinol y Rhyl. Bydd pump o’r cartrefi newydd yn yr ardal gadwraeth a bydd eu hwyneb yn cael ei ail-adeiladu i edrych yr un fath â’r eiddo sy’n bodoli er mwyn cadw treftadaeth gyfoethog yr ardal.

Y dyddiad cwblhau disgwyliedig ar gyfer y cynllun yw haf 2023.

Dywedodd Pennaeth Datblygu a Thwf ClwydAlyn, Penelope Storr,

“Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar ein hymrwymiad i drechu tlodi yma yng Ngogledd Cymru yn ogystal â dwyn llety fforddiadwy i’r ardal leol.

“Mae’r Rhyl yn rhan o raglen adfywio gyffrous ac rydym wedi cyffroi o fod yn rhan o’i ddyfodol gyda chynllun Stryd Edward Henry. Bydd y cartrefi newydd yma’n cynnig cartrefi newydd, modern a fydd yn bodloni anghenion y boblogaeth leol ac yn cynnig dewis gwahanol i’r llety arddull fflatiau sydd â gormod ohonynt yn yr ardal ar hyn o bryd.”

Bydd y cartrefi cyfeillgar o ran carbon yn cael eu datblygu yn ôl safon uchel ClwydAlyn o ran ansawdd, gan sicrhau bod yr eiddo, nid yn unig yn llawn steil a chyfforddus ond hefyd yn addas at y dyfodol. Gyda’r nod o gael effaith cadarnhaol ar leihau tlodi tanwydd yn ogystal â bod yn llawer mwy ymwybodol yn amgylcheddol trwy leihau’r galw am ynni a lleihau allyriadau carbon.

Bydd y cwmni adeiladu lleol, NWPS Construction Ltd yn cyflawni’r gwaith adeiladu, gan ddefnyddio eu harbenigedd eang o ran cyflawni prosiectau adeiladu ar draws Gogledd Cymru am dros 20 mlynedd. Bydd y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu yn ôl safonau effeithlonrwydd ynni uchel gyda strwythur ffrâm bren a lefel uchel o inswleiddiad, gan ddarparu cartrefi carbon isel effeithlon. Bydd hyn yn sicrhau bod angen yr ynni lleiaf posibl i gadw’r tai yn gynnes, gan leihau costau ynni, gan ddarparu ffordd o fyw fwy gwyrdd a glanach.

Dywedodd Brian Madden, Rheolwr Adeiladu NWPS:

“Mae NWPS yn edrych ymlaen at weithio’n glos eto gyda ClwydAlyn i gyflawni’r prosiect hwn ar amser, o fewn y gyllideb a chynnal y gwaith adeiladu o safon uchel y mae ClwydAlyn yn ei ddisgwyl.

“Rydym hefyd yn falch o fod yn gweithio yn y gymuned yr ydym yn rhan ohoni, er mwyn gallu cynnig sicrwydd gwaith i lawer o grefftwyr a chyflenwyr lleol ac i ddarparu tai fforddiadwy y mae angen mawr amdanynt yn yr ardal”

“Mae’n wych gweld y gwaith yn dechrau ar y cartrefi newydd yma ar Stryd Edward Henry wrth i waith adfywio’r Rhyl barhau. Mae’r Cyngor yn falch o gefnogi’r prosiect hwn a fydd yn darparu eiddo modern sy’n gyfeillgar o ran carbon i deuluoedd. Bydd y cartrefi hyn hefyd yn effeithlon iawn o ran ynni mewn cyfnod lle mae costau tanwydd yn codi.”

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio’n galed i symud y prosiect tai gwych yma yn ei flaen.”
Cynghorydd Rhys Thomas
Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yng Nghyngor Sir Ddinbych

Mae’r cynllun yn rhan o raglen ddatblygu ClwydAlyn i ddarparu 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025 am fuddsoddiad o £250m gan ddod â chyfanswm y tai y maent yn eu rheoli i dros 7,500.