Skip to content

Mae tenantiaid wedi symud yn ddiweddar i ddatblygiad tai newydd sydd wedi ei adeiladu yn Llangefni.

Mae’r datblygiad yn cael ei weld fel un o’r rhai mwyaf blaengar, mae cyfanswm o 60 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu ar safle Campws Pencraig Coleg Menai, ac mae cyfanswm o 12 cartref yn awr yn barod i bobl symud iddyn nhw.

Cyflawnir y prosiect £9.6m hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a’r contractwyr o Ogledd Cymru Anwyl Partnerships.

Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o gartrefi sy’n cynnwys cartrefi dwy a thair ystafell wely, gan amrywio o fflatiau, tai pâr a thai teras.

Cychwynnodd y gwaith yn hydref 2021 ac mae’r goriadau yn cael eu trosglwyddo’r wythnos hon i 12 o denantiaid newydd.

“Mae’r cartrefi yma i gyd wedi cael eu hadeiladu gan ddefnyddio technolegau carbon isel gan i’r datblygiad ddefnyddio ffrâm bren sy’n cyfuno dulliau adeiladu modern sy’n creu tai sydd â nodweddion perfformiad thermal gwell ac yn cadw aer i mewn yn well."

“Galluogodd hyn ClwydAlyn i gyflwyno tai fydd yn lleihau’r gwres a gollir, gyda llai o alw am ynni a fydd yn cyfrannu at leihau ein hallyriadau carbon, gyda’r nod hefyd o greu arbediadau blynyddol ar filiau ynni."

“Bydd y cynllun hwn yn chwarae rhan sylweddol wrth leihau ein hôl troed carbon a hefyd yn chwarae rhan allweddol yng ngweledigaeth Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ClwydAlyn a’n nod yw ymdrin â heriau newid hinsawdd mewn modd cynaliadwy ac economaidd."

“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni hyd yn hyn ar safle Pencraig Coleg Menai i ClwydAlyn a’n partneriaid. Nid yn unig mae’n rhan sylweddol o’n rhaglen adeiladu tai, lle’r ydym yn anelu i gyflawni 1500 o gartrefi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2025; mae hefyd wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnom ni i’n galluogi i fynd ar ôl ein huchelgeisiau gwyrdd a pharhau i adeiladu tai sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Tom Boome
Pennaeth Technegol, Arloesedd a Hinsawdd yn ClwydAlyn