Skip to content

Yn ddiweddar derbyniodd preswylwyr yng nghynllun Gofal Ychwanegol Hafan Cefni feic digidol a adeiladwyd gan fyfyrwyr chweched dosbarth yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, mewn partneriaeth â Chymunedau Digidol Cymru.

Rhoddwyd y dasg i ddisgyblion Lefel A adeiladu’r beic ymarfer a chreu cyswllt digidol â meddalwedd Google streetview gan swyddogion Llwybrau Cof, prosiect gan Gymunedau Digidol Cymru, gan roi cyfle i reidiwr y beic fynd ar daith feic hamddenol i leoliad o’i ddewis.

Dan reolaeth yr asiantaeth ddatblygu Cwmpas, Cymunedau Digidol Cymru yw rhaglen gynhwysiant ddigidol genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae’r prosiect oedd yn bartneriaeth rhwng Ysgol David Hughes, Cymunedau Digidol Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn a Recycle IT Gogledd Cymru wedi cynnig dull gwahanol i breswylwyr Hafan Cefni ymarfer gan hefyd fynd ar daith i hel atgofion, rhywbeth nad yw rhai ohonynt wedi ei wneud ers blynyddoedd.

Soniodd Brenda Huws, Rheolwr Gofal Ychwanegol yn Hafan Cefni wrthym am y ffordd y digwyddodd y sesiwn a’r manteision i’r preswylwyr a’r myfyrwyr:

“Cysylltodd Llwybrau Cof â ni i fod yn rhan o’r prosiect cyffrous yma ac fe wnaethom dderbyn y cynnig yn syth.

“Fe wnaeth y preswylwyr gymryd rhan mewn rhywbeth tebyg i’r beic digidol rai blynyddoedd yn ôl a’i fwynhau yn fawr, ond dim ond am un sesiwn yr oedd y beic yma. Mae’r hyn y mae’r disgyblion yn Ysgol David Hughes wedi ei wneud yn rhyfeddol ac maen nhw wirioneddol wedi rhoi bywyd newydd i breswylwyr Hafan Cefni, gan roi annibyniaeth yn ôl iddyn nhw y gallan nhw fod wedi ei golli dros y blynyddoedd.

Roedd hi hefyd yn wych gweld y bobl ifanc yn rhyngweithio gyda’r preswylwyr trwy gydol y dydd ac yn eu gweld yn datgloi atgofion creiddiol wrth fynd ar hyd llwybr cyfarwydd, gan hel atgofion am y dyddiau da.”

Nid yn unig mae’r beic yn cynnig profiad diogel a phleserus i’r preswylwyr yn Hafan Cefni, ond mae hefyd wedi rhoi cyfle i fyfyrwyr Ysgol David Hughes i ddatblygu sgiliau newydd yn ogystal â datrys problemau wrth adeiladu’r beic.

“Mae wedi bod yn wych cael y cyfle i weithio gyda'r myfyrwyr yma i ddatblygu'r beic i breswylwyr Hafan Cefni ei fwynhau. Rydym yn gwybod bod manteision mawr i weithgaredd corfforol, ac rwy'n gobeithio y bydd cael y beic yn barhaol yn Hafan Cefni yn gweld y preswylwyr yn cael budd, nid yn unig o ran eu hiechyd corfforol ond hefyd eu hiechyd meddwl.

“Fe fyddwn hefyd yn hoffi diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect, i'r myfyrwyr, Daron Harris a gweddill y staff dysgu yn Ysgol David Hughes am wynebu'r her, fy nghydweithiwr
Simon Jones am gefnogi'r myfyrwyr wrth adeiladu'r beic digidol, Cyngor Sir Ynys Môn am roi £1,000 tuag at brynu'r beiciau a Recycle IT Gogledd Cymru a wnaeth roi gliniaduron wedi eu haddasu ar gyfer pob beic. Roedd y brwdfrydedd i gael y prosiect hwn yn ffaith yn fawr ac roedd yn braf gweld ffrwyth ein llafur yn troi yn breswylwyr yn mwynhau eu hunain."
Ychwanegodd Deian ap Rhisiart
Cymunedau Digidol Cymru