Skip to content

ClwydAlyn yn lansio Gwobrau Cymydog Da fel rhan o #MisCymuned.

A oes gennych chi gymydog gwych sy’n helpu’n gyson ac yn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Gellir dod o hyd i gymdogion da ym mhob rhan o Ogledd Cymru. Maent yn gwneud cyfraniad anferth i fywydau llawer o bobl, yn aml heb feddwl am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei gael. Gallant fod yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o bethau, gan gynnwys trefnu cinio, mynd â chŵn am dro, helpu cymdogion mewn oed, coginio prydau, siopa i eraill, a mwy.

Mae’r Gwobrau Cymydog Da yn amlygu cyfraniadau gwych preswylwyr o bob oed sy’n gwella bywydau pobl eraill ac yn mynd y filltir ychwanegol. Boed wedi rhoi gofal a chefnogaeth i eraill, wrth law bob amser pan fydd eu hangen, neu yn ddim ond wyneb cyfeillgar o gwmpas eich ardal, fe fyddem yn hoffi clywed amdanynt.

Enwebwch rywun

Y mis hwn byddwn yn dathlu tri phreswyliwr o’r 7 sir i gyd (Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Powys, Wrecsam) am fod yn gymdogion da – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw dweud wrthym pwy sy’n haeddu’r wobr honno! Rydym yn chwilio am rywun sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned, nid yw o bwys a yw hynny’n rhywbeth mawr neu rywbeth bach. Yr unig reol yw bod raid iddynt fyw yn un o’r saith sir a enwir uchod.

Enwebu rhywun am y Wobr Cymydog Da (Dolen i’r cais)

Rhaid i chi fod â chaniatâd gan y person yr ydych yn ei enwebu cyn gwneud yr enwebiad. Os ydyn nhw dan 18, bydd arnoch angen caniatâd ei riant neu warcheidwad.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch anfon eich cwestiynau trwy e-bost i gyfeiriad e-bost annie/laura: annie.jackson@clwydalyn.co.uk ar laura.mckibbin@clwydalyn.co.uk