Skip to content

Gall y bobl sydd am ddechrau gyrfa mewn arlwyo wneud hynny’n awr trwy ymuno â llwybr gyrfa ClwydAlyn.

Bydd y cynllun newydd a chyffrous hwn yn galluogi unigolion i ymuno â ClwydAlyn gyda sicrwydd o fwy o hyfforddiant a/neu brofiad a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen ar y llwybr.

Mae gennym nifer o dimau arlwyo yn ClwydAlyn yn ein Cyfleusterau Gofal a Gofal Ychwanegol, a nod adolygiad diweddar oedd sefydlu strwythur newydd fydd yn cefnogi datblygiad gyrfa’r staff.

Dywedodd Elaine Gilbert, Cyfarwyddwr Pobl, Cyfathrebu a Marchnata yn ClwydAlyn:

“Bydd y newid yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu i bobl fydd yn gadael iddynt symud eu gyrfaoedd ymlaen yma yn ClwydAlyn, gan gychwyn fel Cogydd dan Hyfforddiant gyda’r rhagolygon o weithio tuag at fod yn Gogydd ac yna yn Gogydd Cyfrifol.

“Gyda dros 750 o staff, nod ClwydAlyn yw creu cyfleoedd gwaith tymor hir yng Ngogledd Cymru, ac rydym wedi ymrwymo i greu swyddi fydd yn galluogi pobl i adeiladu a datblygu eu sgiliau ar draws ystod o wahanol feysydd.

“Dim ond dechrau’r daith i ClwydAlyn yw hyn, wrth i ni barhau i edrych ar gyfleoedd eraill a fydd yn cynnig y cerrig camu angenrheidiol i alluogi pobl i weithio tuag at gyflawni eu nodau a’u dyheadau gyrfa.”

Ar hyn o bryd mae gan ClwydAlyn nifer o gyfleoedd llwybr gyrfa ar draws Gogledd Cymru, a hoffent glywed gan unrhyw un all fod â diddordeb mewn gyrfa ym maes arlwyo.

Mae’r swyddi ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Cogydd dan Hyfforddiant yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Llys Eleanor, Shotton
  • Cogydd yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Hafn Gwydir, Llanrwst
  • Cogydd Cyfrifol yng Nghynllun Byw’n Annibynnol Maes y Dderwen, Wrecsam

Er mwyn cael gwybod rhagor am y cyfleoedd yma neu i weld pa swyddi gwag eraill sydd ar gael yma yn ClwydAlyn, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/work-for-us