Mae Tan y Fron yn gynllun Byw’n Annibynnol i bobl hŷn a adeiladwyd i’r diben, sy’n cynnig cyfuniad unigryw i chi o fywyd annibynnol, ond gyda gofal cartref 24 awr y dydd ar y safle a chefnogaeth yn ôl yr angen, gan roi tawelwch meddwl i chi yn awr ac at y dyfodol.
Rydym wedi defnyddio ein profiad eang i ddatblygu fflatiau o safon uchel, sydd wedi eu hadeiladu i’r diben i roi amgylchedd delfrydol ar gyfer eich holl anghenion, gan gynnig gofal cartrefi, cefnogaeth a chymorth i hyrwyddo annibyniaeth. Mae ein sylw i ddylunio da wedi ymestyn at bob agwedd o’r cynllun a’r fflatiau – maent wedi eu hinswleiddio fel eu bod yn gyfforddus ac yn effeithlon o ran ynni, mae ynddynt dechnoleg i helpu i gefnogi bywyd annibynnol ac maent yn ddiogel a chyfleus, ac eto yn cynnig amgylchedd cartrefol a modern, mewn gerddi deniadol sy’n cael eu cynnal yn dda.
Mae gwneud ffrindiau newydd yn hawdd, datblygwyd yr ardaloedd cymunedol i annog cymdeithasu ac mae llu o gyfleusterau ar y safle i chi eu mwynhau.
Mae Llandudno yn adnabyddus am ei draethau, y promenâd hir a’r Pier Fictoraidd, ei gyrsiau golff a’i lwybrau cerdded. Saif Tan y Fron 1 filltir o ganol y dref, sydd â digonedd o siopau a chaffis. Bydd arosfan bws tu allan i brif fynedfa Tan y Fron, gan gynnig cysylltiad hawdd â chanol y dref. Os byddwch am ei chymryd hi’n hamddenol ar lan y môr neu fanteisio ar yr holl ddewis o weithgareddau hamdden yn Llandudno, bydd cartref newydd yn Llandudno yn ddelfrydol.
![outside area at Tan y fron Llandudno](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/MEC_1841-1-scaled.jpg)
![Tan Y Fron courtyard](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/MEC_1852-1-scaled.jpg)
![Hairdressing Salon in Tan y fron, Llandudno](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/DSC_3668-1-scaled.jpg)
![Front of Tan y Fron, Independent living Scheme with extra care](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/DSC_3687-1-scaled.jpg)
![Lounge at Tan y Fron Llandudno](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/DSC_3642-1-scaled.jpg)
![Seating area at Tan y Fron Llandudno](https://www.clwydalyn.co.uk/wp-content/uploads/2023/07/DSC_3634-1-scaled.jpg)