Skip to content

Mae Merton Place yn cynnig amgylchedd cyfeillgar, cynnes a llawn gofal i bobl hŷn sydd angen gofal preswyl a nyrsio a gofal lliniarol.

Fel un o’r Cartrefi Gofal mwyaf newydd a gorau yng Ngogledd Cymru, mae Merton Place yn wir yn ganolfan ‘bum-seren’, a adeiladwyd i’r diben i roi’r gofal a’r gefnogaeth 24 awr gorau posibl.

Saif Merton Place mewn gerddi hardd mewn ardal breswyl dawel yng nghanol Bae Colwyn. Mae mewn lleoliad da ychydig oddi wrth ffordd yr A55 ac yn gyfleus i’r holl gyfleusterau lleol.

Mae ein llofftydd llawn offer yn olau, diogel a chyfforddus. Mae ein Pen-cogyddion yn ymfalchïo mewn gwybod beth yw dewisiadau ac anghenion ein preswylwyr ac yn paratoi prydau o safon uchel, maethlon sy’n cael eu cyflwyno’n dda.

Credwn mewn hyrwyddo annibyniaeth gyda chefnogaeth wrth law pan fydd ei angen ac rydym yn cydnabod bod pawb yn wahanol, gyda diddordebau gwahanol. Mae digon o ofod gyda lolfeydd ar bob llawr, gan alluogi preswylwyr i gymdeithasu os dymunant, neu i wneud fel y mynnant.

Mae arnoch eisiau tawelwch meddwl, bod yn gyfforddus ac annibyniaeth ac fe fydd Merton Place yn rhoi hyn i gyd i chi. Rheolir y datblygiad gan dîm profiadol o staff ac rydym yn ddarparwyr llety arbenigol sydd wedi hen sefydlu ac sydd â pharch mawr.

Man lle mae annibyniaeth, urddas a dewis yn ganolog i bopeth a wnawn.

Fideo Croeso i Merton Place

pdf
Taflen Merton Place
Lawrlwythwch

Ffurflen ymholiad

Enw(Required)
E-bost(Required)
Neges