Skip to content

Cymrwch olwg ar ein swyddi gwag ar hyd o bryd


logo only CA
Töwr Amlsgiliau
• Llanelwy / yn y maes
logo only CA
Gweithiwr Prosiect
Foyer Wrecsam, Wrecsam
logo only CA
Glanhawr
Yn y maes - Swyddfeydd Llanelwy

Rydym yn ymdrechu i greu ymdeimlad o berthyn, gydag amgylchedd gwaith a byw cynhwysol ac amrywiol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, cyfforddus a diogel i fod yn nhw eu hunain.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth hollgynhwysol lle mae gwahaniaethau’n cael eu dathlu, a’n staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Rydym wedi ymrwymo i annog cyfartaledd cyfle, amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith ein gweithlu ac i’n gweithlu fod yn wirioneddol gynrychioliadol o’n cymunedau.

Os byddai’n well gennych ymgeisio am unrhyw un o’n swyddi mewn ffordd wahanol cysylltwch â’n Tîm Pobl yn peopleteam@clwydalyn.co.uk neu ffoniwch 07730200433 a byddant yn barod iawn i’ch cefnogi trwy’r broses ymgeisio.

Os na fyddwch yn gweld swydd y mae gennych ddiddordeb ynddi yn cael ei rhestru yma ac yr hoffech gael gwybod am swyddi yn y dyfodol, yna ymunwch â’n rhestr bostio recriwtio

Staff talking in a breakout area in main offices

Cyfleoedd eraill i ddysgu a thyfu

O brentisiaethau i wirfoddoli gallwn eich helpu i gyrraedd nodau eich gyrfa
Dysgwch ragor

Pam gweithio i ni

Ymddiriedolaeth
Rydym yn ymddiried yn ein pobl i wneud penderfyniadau da ac i wneud yr hyn sy'n iawn mewn sefyllfa benodol. Rydym yn trin ein gilydd â pharch. Nid ydym yn rhwym i reolau ac rydym yn rhydd i weithio'n hyblyg ac yn greadigol er lles gorau ein trigolion a'r sefydliad.
Gobaith
Credwn y gallwn wneud gwahaniaeth. Rydyn ni'n rhoi gobaith i'r bobl sy'n byw yn ein cartrefi ac i'n gilydd. Rydyn ni’n credu bod pawb yn dod i’r gwaith i wneud y gwaith gorau posib a byddwn ni’n helpu ein gilydd i gyflawni ein breuddwydion a’n nodau
Caredigrwydd
Rydym yn garedig. Rydym yn dosturiol ac yn gofalu am ein gilydd, fel cydweithwyr a phreswylwyr. Credwn fod pawb yn bwysig, ac mae gennym ddiwylliant agored sy'n gwerthfawrogi gwahaniaethau. Byddwn yn mynd yr ail filltir ar gyfer ein gilydd; bydd ein pobl a’n trigolion yn cydnabod caredigrwydd yn y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau.

Why work for us


Gwyliau Blynyddol
Rydym yn cynnig 25 diwrnod a gwyliau banc yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.

Hyblygrwydd ychwanegol i brynu a gwerthu hyd at 5 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata).
Buddion iechyd
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion iechyd gan gynnwys cynllun Beicio i'r Gwaith, cynllun Gofal Llygaid a Chynllun Arian Gofal Iechyd.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth cwnsela cyfrinachol am ddim i bob aelod o staff.
Mae teuluoedd yn bwysig
Rydym yn cynnig 4 mis o dâl llawn a 5 mis o hanner tâl pan fyddwch ar Absenoldeb Mamolaeth, Mabwysiadu neu Rieni a Rennir.

Rydym hefyd yn cynnig amgylchedd gweithio ystwyth a hyblyg i gefnogi teuluoedd a gofalwyr.
Pensiwn
Cynllun pensiwn Cyfraniadau Diffiniedig gyda chyfraniadau cyfatebol (hyd at 8%) a budd-dal marwolaeth mewn gwasanaeth 3 gwaith eich cyflog.
Tâl salwch uwch
Tâl salwch uwch ar ôl 1 mlynedd o wasanaeth yn codi i uchafswm o 3 mis o gyflog llawn, 3 mis hanner cyflog.

Mewn sefyllfaoedd difrifol sy'n bygwth bywyd, rydym yn cytuno ar gefnogaeth unigol.
Lles a chefnogaeth ariannol
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth gan gynnwys mynediad at gynilion a benthyciadau trwy undeb credyd, mynediad at gefnogaeth gan ein Tîm Cyngor Lles ac Arian mewnol a mynediad i ginio am ddim i bob aelod o staff.
Cymorth Lles Penodol
Gwyddom fod meithrin lefelau uchel o les yn dda i bobl, y sefydliad a’r cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylcheddau gweithio cadarnhaol, hyblyg lle gall unigolion a chymunedau ffynnu.

Mae gennym Dîm Lles Gweithle penodol ac rydym yn darparu ystod eang o gefnogaeth a buddion sy'n gysylltiedig â lles i gefnogi lles meddyliol, corfforol a chymdeithasol da.
Ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
Rydym wedi ymrwymo i ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Bydd bod yn sefydliad TrACE nid yn unig o fudd i brofiadau bywyd ein preswylwyr a defnyddwyr gwasanaeth, bydd hefyd yn cefnogi lles a chynhwysiant ein staff a’r ffordd rydym yn croesawu ‘Byw ac Arwain yn ôl ein Gwerthoedd’.
Dysgu a Datblygu
Ein blaenoriaeth yw buddsoddi yn natblygiad personol staff i gyrraedd eu potensial.

Trwy hyfforddiant ffurfiol, dysgu yn y swydd, hyfforddi a mentora, rydym yn darparu amgylchedd dysgu sy'n gefnogol i bob person adeiladu sgiliau a fydd yn eu helpu i fod yn wych yn eu swydd heddiw ond sydd hefyd yn eu galluogi i dyfu gyrfa gyda ni ar gyfer y dyfodol. .

Ein hardystiadau a'n haddewidion

working families 2022 logo
Deeds-Not-Words campaign image
Wellbeing of Women logo
Tai Pawb logo transparent

Gwnewch gais nawr

Step 1 of 2

Eich Gwybodaeth Bersonol

Your Name(Required)
Eich cyfeiriad e-bost(Required)
Cyfeiriad(Required)