Yr wythnos hon yw Wythnos Ffoaduriaid, ac i nodi’r digwyddiad rydym yn ystyried y prif thema eleni sef trugaredd, drwy rannu sut y mae Gogledd Cymru wedi croesawu’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel.
Mae Wcráin a Rwsia wedi bod yn gwrthdaro ers dros 12 mis ac yn ystod yr amser hwnnw mae miloedd o bobl wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a gadael eu holl eiddo, gan gyrraedd mewn gwledydd fel Cymru i chwilio am hafan.
Daeth hyn ar ffurf Canolfannau Croeso, a sefydlwyd yng Ngogledd a De Cymru, yn cynnig hafan ddiogel i’r rhai sy’n ffoi rhag rhyfel a’n darparu siop un stop i gael help a chefnogaeth wrth addasu i wlad newydd.
Fe wnaethom siarad â’r Rheolwr Byw â Chefnogaeth, Linda Hughes, sydd ers 12 mis wedi bod yn wyneb un o’r Canolfannau Croeso yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, yn cysylltu â phartneriaid ac asiantaethau i alluogi ffoaduriaid i ddechrau eto.
“Yr hyn wnaethom ni allu ei wneud oedd cefnogi Cyngor Gwynedd i ddarparu gwasanaeth cofleidiol, gan gynnig y llety cychwynnol i bobl a chefnogaeth i’w helpu i setlo yng Nghymru. Fy mhrif swyddogaeth oedd gweithio gyda Chyngor Gwynedd i asesu anghenion llety pobl a help symud pobl i lety hir-dymor hwy. Gallai hyn fod wedi bod yn eiddo cymdeithasol neu ar rent preifat neu eiddo wedi ei gofrestru gan unigolyn ar y cynllun Cartrefi i Wcráin.
“Tra’r oeddem yn y Ganolfan Groeso roeddem hefyd yn gweithio’n glos gyda phartneriaid eraill fel Heddlu Gogledd Cymru, gan gynnig sesiynau ar bynciau fel Cyfraith y Deyrnas Unedig ac roeddem yn lwcus iawn o gael cefnogaeth gan y sefydliad lleol Pobl i Bobl, sefydliad a fwriadwyd i helpu pobl mewn argyfwng yng Ngogledd Cymru. Crëwyd Pobl i Bobl sesiynau trochi iddynt brofi hanes a diwylliant y rhanbarth, gan help ni gynnig y croeso cynhesaf posibl i’r bobl yma.”
Ers agor y drysau, mae Linda a’r tîm wedi chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r ffoaduriaid trwy sicrhau eu diogelwch a rhoi mynediad iddynt at wasanaethau cyhoeddus ac yn bwysicaf oll hafan. Hyd yn hyn mae 142 o bobl wedi cyrraedd y Ganolfan Groeso, gyda 104 wedi cael eu symud ymlaen yn llwyddiannus i lety tymor hwy, gan ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth, parhau â’u hastudiaethau, neu symud ymlaen i wlad arall i ailgysylltu gyda theulu a ffrindiau.
Mae Mariia a aeth trwy y daith hon wedi cytuno i siarad â ni am ei phrofiad ers cyrraedd Cymru, dywedodd:
“Pan gyrhaeddais Cymru, yn chwilio am loches ar ôl erchyllterau rhyfel Rwsia yn fy ngwlad fy hun, roeddwn yn llawn o ansicrwydd ac ofn. Ond, yr eiliad y gwnes i estyn allan at y ganolfan groeso, fe’m derbyniwyd â breichiau agored a chalonnau trugarog.
“Daeth y lle hwn yn hafan lle cefais gysur a chefnogaeth yn ystod fy nyddiau cyntaf yng Nghymru. Aeth y bobl oedd yn gweithio yno tu hwnt i’w dyletswyddau i roi, nid yn unig y gwasanaethau hanfodol, ond hefyd amgylchedd cynnes a chroesawus. Gwnaeth eu caredigrwydd a’u haelioni’r broses addasu i deimlo’n llai brawychus a llethol. O gynorthwyo gyda gwaith papur a phrosesau cofrestru i sicrhau bod fy holl anghenion corfforol a meddyliol yn cael eu diwallu, ni wnaethant esgeuluso dim er mwyn sicrhau fy mod yn teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi a’u bod yn gofalu amdanaf.
“Un weithred benodol wnaeth gyffwrdd fy nghalon yn ddwfn iawn oedd darparu bwyd figan i mi. Gwnaeth y meddylgarwch a’r cydymdeimlad a ddangoswyd gan y cynrychiolwyr yn y ganolfan groeso i mi deimlo fy mod yn cael fy ngweld, fy mharchu a’m gwerthfawrogi. Mae eu hymrwymiad i roi, nid yn unig yr angenrheidiau sylfaenol, ond hefyd sicrhau sensitifrwydd diwylliannol, yn enghraifft wirioneddol o werthoedd trugaredd a chynhwysiant. A thu hwnt i’r help materol, fe roddodd y staff eu cefnogaeth ar lefel bersonol. Pan wnes i raddio o bell o fy mhrifysgol yn Wcráin, fe wnaethant ddathlu’r garreg filltir yma gyda mi, gan rannu yn fy llawenydd a chacen fach. Fe wnaeth yr arwydd hwn o ofal a chydnabyddiaeth wirioneddol atgyfnerthu’r syniad nad oeddwn yn ddim byd ond ffoadur, ond yn unigolyn sy’n cael ei gwerthfawrogi ac yn haeddu parch a chefnogaeth.
“Yn ychwanegol fe wnaeth canolfan groeso Bangor fy nghynorthwyo i ddod o hyd i noddwr a lle i aros ar ôl fy nghyfnod yn y ganolfan. Trwy eu hystyriaeth ofalus, fe wnaethant fy nghyflwyno i Rachel, dynes ryfeddol y gwnaeth ei chalon agored a’i hysbryd croesawus wneud i mi deimlo fel aelod annwyl o’i theulu. Roedd byw gyda Rachel a’i chi hoff Stan yn brofiad trawsnewidiol, ac fe wnaeth lenwi fy mywyd gyda chynhesrwydd, cariad, a chefnogaeth yn ystod fy arhosiad yng Nghymru. Ni all pellter hyd yn oed dorri’r clymau sydd wedi eu llunio rhyngom. Rydym yn cadw cysylltiad, gydag ymweliadau cyson yn ystod gwyliau, pen-blwyddi a hyd yn oed penwythnosau. Mae eu cefnogaeth barhaus, hyd yn oed ar ôl i mi symud i Gaerdydd i barhau fy astudiaethau, wedi bod yn gysur a sicrwydd i mi. Fe wnaeth staff o’r ganolfan groeso hefyd gyfathrebu’n gyson i sicrhau fy mod yn iawn ac yn ddiogel. Mae’r ymdeimlad o gymuned sydd wedi ei feithrin gan y lle hwn wedi gwneud i mi sylweddoli nad yw pellter yn lleihau’r clymau yr ydym wedi eu ffurfio.”
Yn dilyn eu llwyddiant mawr, mae’r Canolfannau Croeso yn awr yn dod i ben wrth i bobl symud i lety tymor hwy, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn parhau i weithio gyda chynghorau a chymdeithasau tai i groesawu pobl Wcráin i Gymru, gan eu helpu i symud i lety tymor hwy.
Gyda’r cyfeiriad newydd hwn yn cael ei wireddu yn awr, mae Linda wedi bod yn ystyried ei hamser fel rhan o dîm y Ganolfan Groeso, gan ddweud bod bod yn rhan o’r tîm y peth iawn i’w wneud ac na fydd hi fyth yn anghofio’r bennod hon yn ei bywyd:
“Doedd hi erioed yn gwestiwn o fyddwn i’n ymuno â’r tîm a helpu’r rhai oedd yn ffoi rhag rhyfel. Roedd hi’n fater o pryd y gallaf i ddechrau! Roedd y bobl yma’n llythrennol yn gadael eu cartrefi gyda dim ond y dillad ar eu cefnau, ac roedd gennyf deimlad cryf o ddyletswydd i wneud yr hyn a allwn i helpu a rhoi cymorth i gymaint o bobl â phosibl.
“Ac nid dim ond fi oedd hynny, mae tîm gwych o bobl wedi bod yn rhoi eu cyfan i sicrhau bod y bobl yma’n teimlo’n ddiogel ac yn cael eu cefnogi, ac fe wnaethon ni hyn trwy gynnig gwasanaeth cyson gyda chyn lleied o drosiant staff â phosibl, gan lunio perthynas bwysig rhyngom. Roedd hyn yn allweddol i’n llwyddiant, oherwydd ei fod yn gadael inni ddod i adnabod ein gilydd, a wnaeth yn ei dro adael i ni weithio gyda’n gilydd a chytuno ar gynlluniau tymor hir, gan wneud y broses i lety tymor hwy yn llawer haws i’r ddwy ochr.
“Mae pob unigolyn sydd wedi cerdded trwy’r drysau wedi bod yn rhyfeddol ac wedi dangos gwytnwch anhygoel; yn cyrraedd mewn gwlad dramor, ddim yn adnabod neb na dim, ac o fewn ychydig fisoedd yn dysgu iaith newydd a symud ymlaen â’u bywydau, mae’n fy rhyfeddu.
“Yn aml byddaf yn ceisio rhoi fy hun yn eu hesgidiau, yn mynd trwy gymaint o dor calon a chaledi ac ni allaf wneud mwy na chanmol eu cryfder a’u hysbryd. Mi fyddwn wrth fy modd yn gallu dileu’r pethau erchyll y mae’r bobl yma wedi eu profi, ond yn anffodus alla i ddim. Ond fe fyddwn yn hoffi meddwl eu bod wedi gadael yma gyda gobaith ac optimistiaeth, ac fe fyddwn yn hoffi dymuno popeth gorau iddynt yn eu hymdrechion.”
Ychwanegodd Anna:
“Wrth gloi, rwyf am ailadrodd fy ngwerthfawrogiad o’r caredigrwydd, cefnogaeth a’r cyfleoedd y mae pawb wedi eu rhoi i mi yn ystod fy amser yng Nghymru. Byddaf yn dragwyddol ddiolchgar am yr effaith gadarnhaol yr ydych wedi ei gael ar fy mywyd, ac rwy’n gobeithio y bydd fy nhaith yn fodd o’ch atgoffa o’r gwahaniaeth anferth yr ydych yn ei wneud ym mywydau unigolion dirifedi sy’n chwilio am loches.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Rhys am ddysgu’r Gymraeg i mi, gan ddangos diddordeb di-ben-draw yn fy niwylliant i, a chodi fy nghalon bob amser; Luke am roi amser i sgwrsio bob amser, cadw bwyd figan i mi a rhoi’r cyngor gorau ar ba leoedd i ymweld â nhw yn Llundain; Lindsay am gyfrannu at fy nghysylltiad â Rachel a gofalu fy mod yn iawn o hyd, hyd yn oed ar ôl i mi symud o’r ganolfan; a’r holl bobl sy’n gweithio yn y ganolfan groeso am eu calonnau agored, caredigrwydd a’u dyhead i helpu cenedl Wcrain. Diolch am eich holl gymorth amhrisiadwy a’ch cefnogaeth ddiwyro. Rwyf wedi fy mendithio yn wir o fod wedi eich cyfarfod ar fy nhaith. Rydych yn gwneud y byd hwn yn lle gwell.”