Yn sgil twf busnes sylweddol, mae ClwydAlyn, y gymdeithas dai flaenllaw yng Ngogledd Cymru, wedi ymrwymo i fuddsoddi dros £1miliwn i recriwtio staff ar gyfer 40 o swyddi newydd a fydd yn cynnwys swyddi gwag yn y timau tai, cyllid, cynnal, TG, a chaffael, yn ogystal â rolau Llwybrau, sef cyfleoedd newydd i hyfforddeion er mwyn helpu pobl yn y gymuned sydd heb lawer o brofiad yn y byd gwaith, fel y rhai sy’n gadael ysgol a’r coleg, i roi hwb i’w gyrfa.
Fel rhan o ymrwymiad ClwydAlyn i fuddsoddi mewn twf a datblygiad amrywiaeth eang o dalent, bydd y rolau Llwybrau cyflogedig yn gwella sgiliau ac yn cynnig profiad mewn amgylchedd gwaith gyda chynlluniau cynnydd wedi’u teilwra.
Ar hyn o bryd mae ClwydAlyn yn rheoli 6,300 o gartrefi ledled Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Conwy, Wrecsam, Powys ac Ynys Môn, ac mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu 1,000 o gartrefi newydd ychwanegol dros y tair blynedd nesaf. Er mwyn sicrhau bod y gymdeithas yn parhau i gynnig gwasanaeth o safon uchel i breswylwyr a chymorth i aelodau staff, mae’r sefydliad wedi nodi’r angen i gryfhau ei weithlu yn sylweddol.
Bydd y recriwtiaid newydd yn gweithio gyda’r timau presennol i helpu i adeiladu rhagor o dai fforddiadwy ar draws Gogledd Cymru, tra’n ehangu’r gwasanaethau a gynigir er mwyn cefnogi cenhadaeth graidd y gymdeithas i drechu tlodi. Ar ôl llenwi’r 40 swydd newydd, bydd cyfanswm y gweithlu yn cynyddu i 810.
“Mae’r ymgyrch recriwtio hon yn gyfle gwych i unigolion ymuno â ni yn ein cenhadaeth i drechu tlodi a gwneud gwahaniaeth go iawn yng Ngogledd Cymru.
“Rydyn ni’n chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig sy’n rhannu ein gwerthoedd, sef ymddiriedaeth, caredigrwydd, a gobaith ac yn bwysicaf oll, sy’n dymuno cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar gymunedau."
I weld y rhestr lawn o swyddi gwag, swydd-ddisgrifiadau, a’r broses ymgeisio, ewch i https://www.clwydalyn.co.uk/work-for-us/