
ClwydAlyn ydyn ni
Rydym am i bawb yng Ngogledd Cymru gael mynediad at gartrefi o safon ragorol, fforddio’r bwyd y mae arnyn nhw ei angen i gadw’n iach, byw mewn cartref y maent yn gallu fforddio ei gadw’n gynnes a byw mewn cymuned lle gallan nhw ffynnu.
Rydym yn gweithio gyda phreswylwyr lleol i wneud gwahaniaeth i gymunedau.
Pan fyddwn yn adeiladu cartrefi newydd, rydym yn anelu at eu gwneud mor effeithlon o ran ynni â phosibl.
6,800+
O gartrefi ar draws Gogledd Cymru
7
Sir yr ydym yn gweithredu ynddynt
£2 miliwn
Yn flynyddol i sicrhau Statws Ffit o ran Ynni i’n cartrefi.
Gwasanaethau
preswylwyr poblogaidd
Gallwch gael mynediad hawdd a chyfleus at amrywiaeth eang o’n gwasanaethau mwyaf poblogaidd, o rentu a gwaith trwsio i gael gwybodaeth am ein cartrefi newydd sy’n cael eu datblygu.
Rheoli eich tenantiaeth
Rheoli eich tenantiaeth ar-lein
Gwasanaeth ar-lein am ddim a diogel i reoli eich tenantiaeth, unrhyw bryd, unrhyw le, ydi FyClwydAlyn
Ewch i FyClwydAlyn
Cyngor cynnal a chadw a thrwsio
Edrychwch sut y mae ein cynnal a chadw a gwaith trwsio yn gweithio a chwilio am atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych yma.
Dysgwch ragor yma
Cyngor budd-daliadau ac arian
Mae ein timau Incwm a Thai gwych wedi tynnu rhai awgrymiadau gwych a dolenni at ei gilydd i’ch helpu i gael yr hyn y mae gennych hawl i’w gael.
Dysgwch ragor
Chwiliwch am Gartref
Rydym yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau tai, o dai cyffredinol, i gartrefi gofal a chynlluniau byw annibynnol, ynghyd â chynlluniau byw â chefnogaeth.
Dysgwch ragor

Cartrefi sy’n cael eu datblygu
Archwiliwch y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu ac wedi eu gorffen yn ddiweddar i’w prynu neu eu rhentu.
Gweld datblygiadau
Y newyddion diweddaraf

Datblygiadau, Diweddariadau cyffredinol
Cynllun Byw’n Annibynnol Newydd yn Creu Swyddi Lleol
Mae Neuadd Maldwyn, cynllun byw’n annibynnol newydd sbon i bobl dros 60 oed yn y Trallwng, wedi agor yn swyddogol gan greu swyddi newydd i wyth aelod staff.
16/04/2025
Darllenwch ragor

Latest News
Ymwelwyr Pluog yn codi calonnau mewn Cartref Gofal ym Mae Colwyn
Roedd pawb yn wên o glust i glust yr wythnos hon pan groesawodd preswylwyr cartref gofal Merton Place ymwelwyr bach pluog, a’r plant ysgol a wnaeth helpu i’w deor!
14/04/2025
Darllenwch ragor

Ein Pobl, Latest News
Dathlu Llwyddiant Staff Cartref Gofal ym Mae Colwyn
Yr wythnos ddiwethaf daeth tri o aelodau staff Cartref Gofal Merton Place, Bae Colwyn, at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiant a derbyn cydnabyddiaeth am ychwanegu at eu cymwysterau proffesiynol.
28/03/2025
Darllenwch ragor

Latest News
Dan Adain Cariad – Pat a Ron yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol
Pat a Ron Bank yn dathlu 60 mlynedd o fywyd priodasol gyda phryd Sant Ffolant arbennig iawn.
12/02/2025
Darllenwch ragor

Datblygiadau, Latest News
Cynlluniau i Ailddatblygu Pentref y Pwyliaid Penrhos yn dod yn eu blaenau
Mae’r darparwr tai cymdeithasol ClwydAlyn wedi cyhoeddi y bydd gwaith dymchwel yn dechrau yn fuan ym Mhentref y Pwyliaid Penrhos. Bydd gwaith ailddatblygu sylweddol ar y safle yn arwain at godi 107 o gartrefi newydd y mae galw mawr amdanynt, yn y pentref gwledig hwn yng Ngwynedd.
11/02/2025
Darllenwch ragor

Datblygiadau, Latest News
Preswylwyr yn symud i’w Cartrefi Ynni-effeithlon newydd ar Lannau Dyfrdwy
Mae’r preswylwyr cyntaf wedi dechrau symud i’w cartrefi nweydd yn natblygiad ClwydAlyn, Northern Gateway, ar Lannau Dyfrdwy. Bydd 100 o gartrefi newydd fforddiadwy ac effeithlon o ran ynni yn cael eu hadeiladu ar y safle.
07/02/2025
Darllenwch ragor

Diweddariadau cyffredinol, Latest News
Gladys yn Gwau er budd Elusennau
Mae Gladys Mobbs, 94, yn ymgorffori caredigrwydd ac ymroddiad. Mae hi’n treulio oriau maith bob dydd yn gwau dillad i fabanod a phlant bach, i godi arian ar gyfer elusennau lleol.
07/02/2025
Darllenwch ragor

Latest News
Canmol Cartref Gofal yn Rhuthun am Gynnig Gofal Ystyriol sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn
Mae adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), wedi canmol Cartref Gofal Llys Marchan yn Rhuthun am ‘agwedd ragweithiol a chreadigol’ y staff gofal, yr adeiladau ‘glân, sydd wedi’u cynnal yn dda’, a’r arweinyddiaeth a rheolaeth ‘ragorol’.
09/04/2025
Darllenwch ragor

Ein Pobl, Latest News
Dathlu Llwyddiant: ClwydAlyn yn cynnal digwyddiad i gydnabod staff
Yr wythnos ddiwethaf daeth aelodau ClwydAlyn, cymdeithas dai yng Ngogledd Cymru, at ei gilydd i ddathlu eu llwyddiannau mewn Digwyddiad Cydnabod Staff blynyddol, a gynhaliwyd yng nghynllun byw’n annibynnol Llys Raddington yn y Fflint.
28/03/2025
Darllenwch ragor