Skip to content

Pam gweithio i Gymdeithas Dai fel ClwydAlyn?    

Faint rydych chi’n ei wybod am dai cymdeithasol? Os mai “dim llawer” yw eich ateb yna peidiwch â phoeni. Os ydych yn angerddol dros helpu pobl, trechu tlodi, a gwneud gwahaniaeth, dyna sy’n bwysig.   

Rydym bob amser yn chwilio am bobl garedig, galluog a brwdfrydig i’n helpu i drechu tlodi.  

Beth yw tai cymdeithasol? 

Mae tai cymdeithasol yn cynnig cartref diogel, cynnes a fforddiadwy i bobl ar incwm isel. Awdurdod lleol, cyngor neu gymdeithas dai fel ni sy’n berchen ar yr eiddo ac yn ei reoli.  

Yma yn ClwydAlyn, rydym yn gweithio fel tîm unedig i ddarparu tai a chymunedau o ansawdd gwych i’r rhai sydd â’r angen mwyaf. Rydym yn rheoli dros 6,300 o gartrefi ar draws Gogledd Cymru, o dai fforddiadwy, cyfleusterau gofal arbenigol, cynlluniau byw â chymorth a chynlluniau byw’n annibynnol.   

Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol? 

Ein cenhadaeth yw trechu tlodi a gwneud bywyd yng Nghymru yn well i’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau. Mewn rhannau o Ogledd Cymru, mae disgwyliad oes y boblogaeth wyth mlynedd yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol, ac mae disgwyliad oes iach y boblogaeth bron i ugain mlynedd yn llai na’r cyfartaledd. Nid yw hyn yn deg yn ein barn ni, ac er ein bod yn gwybod na allwn ddatrys y sefyllfa ar ein pen ein hun, rydym yn benderfynol o wneud rhywbeth ynglŷn â’r mater. Dychmygwch petai pawb yn gallu fforddio tŷ cynnes a digon o fwyd da i gadw’n iach. Efallai bod hyn yn swnio fel breuddwyd, ond rydym yn benderfynol o ddal ati. Rydym yn credu y gallwn gyflawni hyn ar gyfer cynifer o bobl â phosibl.  

Ein dymuniad yw gweld pawb yng Ngogledd Cymru yn cael cyfle i fyw mewn tai o ansawdd gwych, fforddio bwyd da i gadw’n iach, byw mewn cartref y gallant fforddio ei gadw’n gynnes a byw mewn cymuned lle gallant ffynnu. 

Rydym yn gweithio gyda phreswylwyr lleol i wneud gwahaniaeth i gymunedau. 

Pan fyddwn yn adeiladu cartrefi newydd, rydym yn ceisio sicrhau eu bod mor effeithlon â phosibl o ran ynni. 

  • 6,000+ Cartrefi ar draws Gogledd Cymru 
  • 7 Nifer y siroedd rydym yn gweithredu ynddynt 

Mae pob math o swyddi gwahanol ar gael ym maes tai cymdeithasol. O ofalwyr, cogyddion, datblygwyr eiddo a TG i gyfathrebu, cyllid a llawer mwy! 

Beth yw manteision gweithio ym maes tai? 

Gweithio i wneud gwahaniaeth. 

Mae gweithio ym maes tai cymdeithasol yn golygu helpu pobl a gwneud gwahaniaeth. Darparu tai fforddiadwy sy’n addas i’r dyfodol, gwneud yn siŵr fod pobl agored i niwed yn aros yn ddiogel ynddynt ac yn gallu parhau i fyw’n annibynnol.  

Er mwyn creu lleoedd gwych i fyw, rydym yn gwybod bod angen i ni ofalu am ein staff ein hunain. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gefnogi lles ein holl weithwyr ac rydym yn cynnig buddion hael yn y gwaith sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd, sef ymddiriedaeth, gobaith a charedigrwydd.  

Pa fanteision sydd ar gael i chi? 

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau cyhoeddus, yn cynyddu i 30 diwrnod ar ôl pum mlynedd o wasanaeth 
  • Patrwm gweithio hyblyg a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith 
  • Iechyd a lles ein staff yw un o’n blaenoriaethau   
  • Mynediad at hyfforddiant, cymwysterau a chyfleoedd datblygiad personol eraill  
  • Cyfraniadau pensiwn o 8% gan eich cyflogwr 
  • Pob math o ddewisiadau gweithio ystwyth ac o bell (gan arbed arian ac amser drwy beidio â theithio am bellter hir i’r gwaith) 
  • Arian ar gyfer cymwysterau ac ardystiadau siartredig 
  • Llwybrau datblygu gyrfa clir 

Mae’r maes tai yn cael ei gydnabod yn eang am ei gryfder a’i sefydlogrwydd mewn hinsawdd economaidd anodd. Er gwaethaf pandemig Covid-19, mae’r sector yn dal i dyfu 

Rydym yn gwneud ein gorau i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n preswylwyr. O’r herwydd, rydym yn flaengar ac yn datblygu ein gwasanaethau yn barhaus, gan groesawu atebion digidol ac ynni-effeithlon newydd 

Beth am weld drosoch chi eich hun:

staff members at Clwydalyn
Y newyddion diweddaraf
Darllenwch fwy am newyddion ClwydAlyn yma.
Darllen mwy
Cleaning team in north wales
Gyrfaoedd
Dewch i ddechrau eich gyrfa gyda Tai ClwydAlyn!
Darllen mwy